12-05-2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi gweld cynnydd sylweddol yn swm yr ymchwil sy’n arwain y byd yn ôl canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021), a gyhoeddwyd heddiw.
Bu gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014.
Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi’i chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Mae PDC bellach yn bedwerydd yng Nghymru o ran effaith (i fyny o’r 8fed safle yn 2014, yn seiliedig ar 4*/3*) gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*).
Mae hyn yn adlewyrchu gwaith PDC fel prifysgol ddinesig ymchwil sy’n cael ei harwain gan effaith, gan ddarparu atebion i faterion byd go iawn. Dathlwyd amrywiaeth a chryfder effaith PDC yr wythnos diwethaf yn y Gwobrau Effaith ac Arloesi blynyddol ar Gampws Caerdydd PDC, a ddangosodd amrywiaeth ymchwil ac arloesi, a sut mae PDC yn cefnogi cymdeithas a’r economi.
Cyflwynodd PDC 11 maes pwnc (Unedau Asesu neu UOAs) i REF 2021 ac mae pob un (10 UOA) a gyflwynwyd yn flaenorol yn 2014 wedi gweld cynnydd mewn ymchwil 4* a 3*.
Mae hanner yr Unedau Asesu a gyflwynwyd gan y Brifysgol (chwech) wedi cael 100% o’u heffaith ymchwil wedi’i ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*) gyda llawer yn arwain y ffordd yn y DU a Chymru.
Mae PDC yn gydradd gyntaf yn y DU am ymchwil effeithiol mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth; mewn Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd; mewn Cyfrifiadureg a Gwybodeg; mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth; mewn Hanes, ac mewn Cerddoriaeth, Drama, Dawns, Celfyddydau Perfformio, Astudiaethau Ffilm a Sgrin (yn seiliedig ar 4*/3*). PDC yw'r cyntaf yng Nghymru am ymchwil sy'n cael effaith mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol (yn seiliedig ar 4*/3*).
Dywedodd yr Athro Martin
Steggall, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil yn PDC: “Bu cyfres wych o ganlyniadau
ar gyfer PDC yn REF 2021 gyda thwf cryf ar draws sawl dangosydd. Mae ein
heffaith yn unig yn dangos y math o brifysgol ymchwil yr ydym - yn darparu
atebion byd go iawn i gymdeithas a'r economi a chefnogi ein cymunedau yr ydym
yn eu gwasanaethu, yn lleol ac yn rhyngwladol.
“Mae cael canlyniadau cryf, nid yn unig i’r Brifysgol yn gyffredinol, ond ar lefel UOA, yn braf iawn a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ymchwil effeithiol o ansawdd uchel sy’n newid bywydau, a’n byd, er gwell.”
01-07-2022
30-06-2022
30-06-2022
29-06-2022
29-06-2022
28-06-2022
28-06-2022
28-06-2022
26-06-2022