Profiad gwlad sy'n agored i niwed o ran yr hinsawdd yn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig: ei hanwybyddu, ei hanghofio, ac yna'i thargedu gan fanciau buddsoddi

Emissions article, Conversation. Cop26.

Gan Palash Kamruzzaman, Uwch Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol De Cymru, a Mohammad Ehsanul Kabir, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caerhirfryn

 

Roedd uwchgynhadledd hinsawdd ddiweddar COP26 yn Glasgow yn blaenoriaethu buddiannau gwledydd cyfoethog, diwydiannol  ar draul rhai'r gwledydd tlawd a'r rhai sy'n agored i niwed o ran  yr hinsawdd. Roedd hwn yn gyfle arall a gollwyd. Er bod y rhan fwyaf o'r gwledydd sydd fwyaf agored i newid o ran  yr hinsawdd yn chwilio am leihad ar frys mewn allyriadau ac iawndal am niwed, anwybyddwyd eu lleisiau'n llwyr neu eu hanwybyddu wrth allor cytundebau buddsoddi posibl gyda gwledydd cyfoethog a sefydliadau cysylltiedig.

Fel llawer o bobl eraill, ein gobaith oedd gweld cynnydd realistig ar dargedau allyriadau. Ond yr hyn wnaeth yr uwchgynhadledd oedd cynyddu ein hofn y bydd llywodraethau a chorfforaethau cyfoethog yn parhau i ddewis echdynnu tanwydd ffosil.

Mae ein gwlad enedigol, Bangladesh, yn un o'r gwledydd mwyaf agored i niwed. Mae dwy ran o dair ohoni'n llai na phum metr uwchben lefel y môr.  Bydd cynnydd yn lefelau’r moroedd yn disodli rhwng un a thair miliwn o bobl ar unwaith, a bydd miliynau mwy yn cael eu taro gan seiclonau cryfach,  llifogydd, cnydau'n methu, sychder a thywydd poeth peryglus, a chynnydd mewn anialdiroedd. Ac mae hyn i gyd er gwaetha’r ffaith bod Bangladesh, fesul pen o’r boblogaeth, yn un o allyrwyr isaf nwyon tŷ gwydr y tu allan i Affrica Is-Sahara.

Buom yn siarad â rhai o gynrychiolwyr Bangladesh yn uwchgynhadledd COP26. Yn seiliedig ar y sgyrsiau hyn a'n harbenigedd ni, dyma ddatgelu'r hyn sydd bwysicaf i wledydd sy'n agored iawn i niwed, fel Bangladesh – a sut y cafodd y materion hyn eu gwthio i'r neilltu yn y broses negodi.

 

Amcanion addasu a chymorth ariannol tuag at addasu

Safbwynt Bangladesh oedd y dylai allyrwyr mawr, gwledydd datblygedig yn bennaf, ymrwymo at roi cymorth ariannol i'r gwledydd hynny sydd fwyaf mewn perygl ond a fydd â rôl lawer llai o ran lleihau allyriadau CO₂ yn fyd-eang.

Bydd angen llawer o'r arian hwn i addasu at newidiadau hinsawdd sydd eisoes wedi digwydd.  Er enghraifft, mae angen i Bangladesh gryfhau glannau ei hafonydd yn erbyn llifogydd; mae angen gwarchod pridd sy'n cael ei olchi i ffwrdd; mae angen cnydau cynnyrch uchel sy'n sensitif i ddŵr, ac mae angen mwy o erddi arnawf  mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd. Bydd yr addasiadau hyn, a llawer o rai eraill yn ogystal, yn costio biliynau o ddoleri.

Mae'r rhan fwyaf o wledydd sy'n agored i niwed yn ei chael yn anodd darparu'r pethau hyn gyda chyllid mewnol. Mae gan y Cenhedloedd Unedig gronfa addasu sy'n dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol gan wledydd datblygedig ac a dderbyniodd gwerth UD$356 miliwn o addewidion yn COP26, cynnydd ar addewidion COP25 o UD$129 miliwn. Ond mae hyn yn dal ymhell o fod yn ddigon. Rhybuddiodd cynrychiolwyr Bangladeshaidd y buom yn siarad â nhw fod y swm sydd ei angen yn tyfu'n llawer cyflymach na'r swm sydd ar gael. Yn wir, dywedodd un adroddiad diweddar fod costau addasu mewn gwledydd sy'n datblygu ddeg gwaith yn fwy na'r arian maen nhw’n ei dderbyn nawr.

Un broblem yw bod cyllid hinsawdd yn dal i fod wedi'i anelu'n bennaf at liniaru, gan ariannu pethau fel ffermydd solar neu weithfeydd ynni dŵr a allai helpu gwledydd fel Bangladesh i leihau eu hallyriadau eu hunain. Dywedodd un o'r cynrychiolwyr fod Bangladesh am i’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn fod yn 50% tuag at addasu a 50% tuag at liniaru.

Roedd Bangladesh, fel gwledydd eraill sy'n agored i niwed o ran yr hinsawdd, hefyd am gael mwy o grantiau, yn hytrach na benthyciadau, sy'n eu gadael mewn dyled. Yn hytrach, gyda gwledydd cyfoethog yn amharod i gynnig y cymorth angenrheidiol, roedd cyllid yn aml yn cael ei gynnig ar sail fasnachol, drwy bartneriaethau cyhoeddus-preifat, er enghraifft.

Ond mae'r math hwn o fuddsoddiad gan y sector preifat wedi'i gyfyngu gan ansicrwydd hirdymor neu risgiau uchel canfyddedig  yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a pheryglon naturiol. Fel y dywedodd un cynrychiolydd o gymdeithas ddinesig Bangladesh yn COP wrthym, bydd ariannu preifat yn blaenoriaethu buddiannau busnes yn bennaf a phrin y bydd yn diwallu anghenion enbyd pobl dlawd ac ymylol o ran addasu at y newid yn yr hinsawdd.

 

Colled a difrod

Yn ôl yr IPCC, mae rhai effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn amhosibl eu hosgoi, ac mor ddifrifol fel na ellir adfer y sefyllfa drwy addasu. Yn iaith polisi hinsawdd rhyngwladol, gelwir hyn yn "golled a difrod". Enghraifft dda o hyn yw tir sydd wedi ei golli am ei fod wedi ei halltu, a chynnydd yn lefel y môr, sydd eisoes yn disodli miloedd o bobl ym Mangladesh.

Dyna pam y gosododd gwledydd sy'n agored iawn i niwed bwyslais enfawr ar ddod o hyd i ddull cyffredin i fynd i'r afael â cholled a difrod. Roedd cynnig yn COP26 i greu cronfa newydd ar gyfer colled a difrod, ond fe'i rhwystrwyd gan yr Unol Daleithiau a'r UE.

Dywedodd un arweinydd dinesig o Fangladesh oedd yn arsylwi’r trafodaethau fod gan wledydd cyfoethog fwy o ddiddordeb mewn denu'r gwledydd tlawd (drwy addewidion o fwy o gymorth) i gefnogi eu hagenda o ostyngiad symbolaidd mewn allyriadau CO₂ tra'n cynnal busnes fel arfer drwy roi allyriadau ar gontract allanol i wledydd tlotach.

Roedd ymdrechion amlwg hefyd i gyflwyno dulliau'n seiliedig ar y farchnad, fel partneriaethau cyhoeddus-preifat, lle byddai sefydliadau ariannol rhyngwladol a banciau buddsoddi yn ariannu "seilwaith ystyriol o’r hinsawdd" mewn gwledydd tlawd. Dywedodd ein cysylltiadau wrthym fod ymgynghorwyr ar gyflogau uchel yn ceisio argyhoeddi cynrychiolwyr ac arweinwyr gwleidyddol y gwledydd tlawd i gytuno â'r dull hwn. Er bod Bangladesh yn croesawu buddsoddi preifat yn yr hinsawdd, gallai'r diffyg arian cyhoeddus olygu y gellid anwybyddu llawer o flaenoriaethau sy’n rhai brys ond heb fod yn broffidiol. Dywedodd ein cysylltiadau ei bod yn annhebygol y byddai gan y  partneriaethau cyhoeddus-preifat ddiddordeb mewn buddsoddi mewn yswiriant amaethyddol, er enghraifft.

Er y byddai rhai gwledydd yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis ond derbyn cynlluniau o’r fath, gallai’r cynlluniau hynny eu gwthio i fath newydd o ddyled. Fel y nododd un arweinydd dinesig:

Sut byddai'r rhain yn cyd-fynd ag amcanion craidd trafodaethau hinsawdd y gwledydd tlawd? Mae'n amlwg mai elw fydd yn gyrru’r sector breifat, ac mai dyna pryd y bydd yn buddsoddi.


This article is republished from The Conversation under a Creative Commons license. Read the original article.