Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022
Mae myfyrwyr o dde Cymru a'r Dwyrain Canol wedi bod yn cydweithio ar brosiect oedd â’r nod o helpu i liniaru llifogydd.
Bu'r pedwar myfyriwr ôl-radd - dau o Brifysgol De Cymru (PDC) a dau o South Valley University (SVU) yn yr Aifft - yn edrych ar ffyrdd o reoli perygl llifogydd yng Nghymru yn rhan o brosiect a gynhaliwyd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT).
Dechreuodd y cydweithrediad rhwng PDC a SVU ym mis Ebrill 2022, yn rhan o gynllun o'r enw 'Cyfoethogi Cyfraniad Prifysgolion i’r Gwaith o Wynebu’r Newid yn yr Hinsawdd drwy Ymchwil, Addysgu ac Ymgysylltu Cymunedol'. Mae'n rhan o brosiect gan y Cyngor Prydeinig yn yr Aifft sydd, yn ei dro, yn rhan o 'Bartneriaethau AU Newid Hinsawdd y DU – yr Aifft'.
Mae hon yn rhan o raglen fwy o'r enw Partneriaethau ‘Going Global’, sy'n ceisio cryfhau'r cydweithio rhwng sefydliadau'r DU a'r Aifft i alluogi ymchwil, rhyngwladoli sefydliadau AU, cryfhau systemau addysg, a gwella canlyniadau myfyrwyr. Mae disgwyl i'r prosiect bara tan Ebrill 2023.
Un o brif amcanion y prosiect oedd adeiladu partneriaeth rhwng PDC a SVU fyddai'n cefnogi mentrau tymor byr a hirdymor i helpu cymunedau a llywodraethau i wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd.
Roedd hyn i'w gyflawni mewn pedair ffordd; drwy ymgysylltu â chymuned De Cymru i rannu gwybodaeth a phrofiad a datblygu prosiect newid hinsawdd go iawn; drwy fynd â lleisiau myfyrwyr i COP27; drwy ddatblygu cwrs hyfforddiant i fyfyrwyr yn y ddwy brifysgol i godi ymwybyddiaeth yn eu plith ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd, a thrwy wella dysgu ac addysgu mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd.
"Er mwyn gwireddu a chyflawni'r amcanion hyn, trefnwyd dau ymweliad rhwng timau ymchwil y ddau sefydliad, y naill gyda’r llall, i drafod cwmpas a gweithgareddau'r prosiect drwy seminarau a gweithdai. Cwblhawyd yr ymweliad cyntaf gan dîm ymchwil PDC yn haf 2022, a bydd tîm ymchwil SVU yn gwneud ymweliad tebyg fis Chwefror nesaf," dywedodd Mohamed Mohamed, sy'n ddarlithydd peirianneg awyrennol a mecanyddol yn PDC ac a fu’n Brif Ymchwilydd ar y prosiect.
"Aeth y prosiect a wnaed mewn partneriaeth â RhCT i'r afael â'r her gyntaf, pan wnaeth y pedwar myfyriwr ystyried ffyrdd o leihau risg llifogydd drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) - sy'n dynwared systemau draenio naturiol.
"Ar ôl iddyn nhw gwblhau'r gwaith gyda RhCT, cyflwynodd y myfyrwyr eu canlyniadau gyda'i gilydd yng nghynhadledd COP27 yn Sharm El Skeikh, Yr Aifft, ym mis Tachwedd."
Roedd Tîm
Prosiect PDC yn cynnwys Mohamed Mohamed (Prif Ymchwilydd), Ewen Constant
(Cyd-Ymchwilydd), CK Tan (Cyd-Ymchwilydd), Matthew Miller, Myfyriwr MEng Peirianneg
Fecanyddol, a Konrad Kubik,
Myfyriwr MEng Peirianneg Fecanyddol.
Tîm Prosiect SVU oedd Mahmoud Abd El-sadek (Prif Ymchwilydd), Youssef Gharbawy (Cyd-Ymchwilydd), Ahmed Shmroukh (Cyd-Ymchwilydd), Mahmoud Mahmoud, Myfyriwr MSc Peirianneg Fecanyddol, Alaa Attia, Myfyriwr MSc Newid Hinsawdd.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022