Sut i anghytuno heb greu gelynion yn oes y pandemig - awgrymiadau gan seicolegydd

Colleague discussion

Gan James Greville, Darlithydd Seicoleg


Ydych chi erioed wedi cael eich gwawdio am eich barn am COVID neu wedi bod yn destun ymosodiadau geiriol o’i herwydd? Os felly, nid chi yw’r unig un. Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at sgwrs agored ynglŷn â’r pandemig fynd i ganol hinsawdd elyniaethus yn aml, yn enwedig ar-lein.

Mae'r polareiddio eithafol hwn ynghylch COVID yn adlewyrchu "rhyfel diwylliannol" ehangach yn y gymdeithas, lle mae anghytuno ar faterion gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol wedi troi’n bwll o ddrwgdeimlad go iawn.

Byddech wedi gobeithio y byddai argyfwng byd-eang fel COVID yn uno pobl. Ond i'r gwrthwyneb, mae COVID a'n hymateb iddo wedi ychwanegu mwy o danwydd at dân sydd eisoes yn gynddeiriog, gyda phobl wedi'u rhannu'n arw dros faterion fel masgiau, cyfnodau cloi, a brechlynnau hyd yn oed.

Mae lleiafrif o bobl yn arddel safbwyntiau eithafol ac anwyddonol am COVID, fel cred mewn damcaniaethau di-sail sy'n gwadu bod y feirws yn bodoli o gwbl. Ac hyd yn oed ymhlith y mwyafrif sy'n cydnabod realiti a difrifoldeb y pandemig, mae llawer o safbwyntiau gwahanol, yn ymwneud mwy â moeseg nag â dod o hyd i atebion i’r pandemig.

Er enghraifft, er y gallai cyfnodau clo a chyfyngiadau eraill fod wedi bod yn bwysig wrth reoli lledaeniad y feirws, mae dadlau brwd yn parhau dros lymder mesurau o'r fath, ac a fu manteision y mesurau yn fwy na’r anfanteision. Rhaid pwyso a mesur y bywydau a achubwyd gan y cyfnodau cloi yn erbyn yr effaith ar yr economi ac iechyd meddwl (sydd yn eu tro yn costio bywydau), a chynnydd dilynol mewn cam-drin plant a thrais yn y cartref.

Mae'r dadleuon hyn yn parhau i gael eu gwyntyllu mewn cymunedau gwyddonol, gyda gwahanol ymchwilwyr yn dod i wahanol gasgliadau, ac felly hefyd ymhlith y cyhoedd.

Felly beth os ydych chi'n dod ar draws rhywun sydd â safbwyntiau gwahanol i chi ar COVID? Gallai fod yn gydweithiwr newydd yn y gwaith neu'r brifysgol. Neu gallai fod yn bwnc anghyfforddus yn codi gyda rhywun rydych chi wedi cwrdd ag ef neu hi’n gymdeithasol. Dyma sut i osgoi drwgdeimlad mawr pan fyddwch chi'n anghytuno â rhywun.

Meithrin tosturi

Mae ymchwil wedi dangos y gall tosturi ac empathi helpu i leddfu gwrthdaro. Yng nghyd-destun anghytuno ar rywbeth, mae tosturi ac empathi’n caniatáu i ni werthfawrogi y gall pobl eraill fod â barn wahanol i ni, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau personol eu hunain.

Yn bwysig, nid yw empathi a thosturi o reidrwydd yn nodweddion statig. Gellir eu cynyddu. Er enghraifft, gall seicolegwyr ddefnyddio ymyrraeth o'r enw cymryd safbwynt gyda'u cleientiaid i gynyddu eu gallu i’w rhoi eu hunain yn esgidiau rhywun arall. Ond mae’n gysyniad y gall pawb ei roi ar waith.

Dychmygwch ein bod yn cwrdd â rhywun sydd naill ai'n gwrthwynebu cyfyngiadau COVID yr ydyn ni o’u plaid neu rywun sydd o blaid cyfyngiadau COVID yr ydyn ni’n eu gwrthwynebu. Efallai fod yr unigolyn sydd o blaid cyfyngiadau llym wedi colli aelod o'r teulu i COVID. Efallai fod gan y person sy'n gwrthwynebu cyfyngiadau blant sydd wedi dioddef oherwydd cau ysgolion, neu sydd â pherthnasau oedrannus y cawson nhw eu hatal rhag ymweld â nhw ac a fu farw wedyn.

Gallwn ofyn i ni'n hunain wedyn, sut byddwn i'n teimlo petawn i yn y sefyllfa honno? Trwy ystyried hyn am funud gallwn wella ein gallu i lywio sgyrsiau anodd.

Mesur seicolegol pellach y gellir ei roi ar waith yn erbyn gwrthdaro yw gostyngeiddrwydd deallusol. Yn syml, mae hyn yn golygu bod yn agored i'r posibilrwydd y gallen ni fod yn anghywir. Gellir cynyddu a meithrin y nodwedd hon hefyd.

Os oes rhywun yn anghytuno â ni, gallwn ei ystyried yn wahaniaeth barn syml neu’n ymosodiad personol. Pan fyddwn yn teimlo’n emosiynol, mae ein hymdeimlad o fod o dan fygythiad personol yn cynyddu, sy'n golygu y gallwn fod yn fwy tebygol o ystyried gwahaniaeth barn fel ymosodiad arnon ni.

Yn ddelfrydol, rydyn ni eisiau gweithio tuag at fod â meddylfryd agored, peidio â barnu, a lleihau i ba raddau rydyn ni'n teimlo dan fygythiad personol. Un ffordd o gyflawni hyn yw drwy ymarferion ymlacio neu ymwybyddiaeth ofalgar. Rydyn ni’n gwybod bod y technegau hyn hefyd yn rhoi hwb i'n tosturi a'n hempathi.

Mae ymchwil ddiweddar hefyd wedi dangos bod pobl sydd â mwy o wyleidd-dra deallusol yn fwy tebygol o wirio ffeithiau camwybodaeth COVID, yn hytrach na’u credu’n ddi-gwestiwn. Mae meithrin gostyngeiddrwydd deallusol yn ei gwneud hi'n haws i ni gytuno i anghytuno ar COVID (a materion eraill), a gall hefyd ein helpu i osgoi syrthio i fagl camwybodaeth COVID yn y lle cyntaf.

Anghytuno heb ffraeo

Yng nghyd-destun yr ymateb i COVID, mae rhai cwestiynau wedi peidio â bod yn wyddonol eu hanian ac wedi troi’n fater o farn foesegol. Wrth i'r pandemig barhau, bydd angen i lawer ohonon ni ddelio gyda chwrdd â phobl sy’n coleddu safbwynt moesegol gwahanol i’n safbwynt ni.

Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd arfer tosturi, empathi, a gostyngeiddrwydd deallusol yn helpu. Gellir cymhwyso'r egwyddorion hyn at faterion dadleuol eraill hefyd, yn ogystal â gwahaniaethau barn ynghylch COVID.

Mae gallu cydfyw'n heddychlon â'r rhai rydyn ni’n anghytuno â nhw yn gwneud y byd yn lle brafiach, ond mae'n hanfodol hefyd i alluogi cymdeithas sifil. Os gallwn ddysgu gweld y rhai rydyn ni’n anghytuno â nhw fel cyd-aelodau o’r ddynol ryw, yn hytrach nag fel yr "eraill" anfoesol, y gobaith yw y byddwn yn fwy parod ar gyfer yr her fyd-eang nesaf.

 

Mae'r erthygl hon yn cael ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

#psychology