Tîm Korfball cenedlaethol Cymru yn cael hwb cerddorfaol ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd

Wales Korfball team October 2022

Mae tîm Korfball cendlaethol Cymru wedi derbyn neges ‘lwc dda’ arbennig iawn wrth iddynt deithio i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Korfball yn Nhwrci, diolch i Brifysgol De Cymru a Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd (CPO).

Mae’r cerddorion wedi recordio trefniant o anthem genedlaethol Cymru, Mae Hen Wlad Fy Nhadau, gyda chymorth graddedigion MSc Cynhyrchu Cerddoriaeth a Pheirianneg a myfyrwyr BA Cynhyrchu Cerddoriaeth yn PDC, a fydd yn cael ei chwarae cyn pob gêm yn y gemau rhagbrofol a gynhelir yn Antalya yr wythnos hon.

Gwrandewch ar y recordiad yma

Mae Korfball yn gamp pêl, a ddisgrifir yn aml fel croesiad rhwng pêl-rwyd a phêl-fasged, a chwaraeir gan ddau dîm o wyth chwaraewr, gyda phedwar chwaraewr benywaidd a phedwar chwaraewr gwrywaidd ym mhob tîm. Y nod yw taflu pêl i mewn i fasged net wedi'i gosod ar bolyn 3.5m o uchder. Bydd tîm Cymru yn wynebu gwrthwynebiad gan Dwrci, Ffrainc, Hwngari, Y Swistir a Chatalwnia yn ystod y twrnamaint.

Cardiff Philharmonic OrchestraHelpodd Martin May, rheolwr tîm Korfball Cymru ac un o gyfarwyddwyr CPO, i drefnu'r recordiad.

Ar ôl ymddeol fel Dirprwy Brifathro, gofynnwyd iddo reoli’r garfan yn ystod Pencampwriaethau Ewrop yng Ngwlad Pwyl yn 2021, ac mae wedi bod yn gofalu am y chwaraewyr ers hynny. Mae ei fab Andrew hefyd yn aelod o'r tîm.

Mae fersiwn Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd o’r anthem genedlaethol yn drefniant a gyfansoddwyd gan Phil Roberts, feiolinydd yn y gerddorfa a fu farw yn anffodus y llynedd.

Dywedodd Martin: “Gwnaethpwyd cymaint o argraff arnaf wrth glywed y garfan yn canu’r anthem genedlaethol y llynedd nes i mi feddwl y byddai’n syniad hyfryd iddyn nhw gael recordiad gwell ohoni a dyna lle daw angerdd arall i’r golwg; rwyf wedi bod yn ffodus i chwarae’r ffliwt gyda Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd am y 30 mlynedd diwethaf ac felly gofynnais i Michael Bell, ein harweinydd, a allai’r gerddorfa gymryd rhan mewn recordiad pwrpasol o’r anthem ar gyfer y garfan Korfball.

"Cytunodd Michael wrth gwrs, mae’n ddyn mor hyfryd. Yna roedd angen cerddoriaeth arnom, a ddarparwyd yn garedig gan wraig Phil, Sally, aelod o’r adran soddgrwth; ac roedd angen arbenigedd recordio arnom hefyd, a dyna lle daeth y Brifysgol i mewn.”

Mae Gill Edwards-Randle, Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth a Thechnoleg Sain yn PDC, yn gyd-chwaraewr soddgrwth CPO a gwirfoddolodd sgiliau graddedigion MSc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth Hana Zacpalkova a Jonathan Stevens, ochr yn ochr â myfyrwyr BA Cynhyrchu Cerddoriaeth Jake Hillcoat a Zeus Huxtable, ar gyfer y recordiad.

Dywedodd Hana Zacpalkova: “Roedd yn brofiad anhygoel bod yn rhan o’r recordiad hwn. Fel aelod o gerddorfa fy hun, braf oedd bod ar yr ochr peirianneg sain y tro hwn, ac roedd pawb mor garedig, proffesiynol ac amyneddgar. Chwaraeodd y cerddorion yr anthem mor berffaith.”

Ychwanegodd Jonathan Stevens: “Ar ôl astudio gyda BSc ac MSc yn PDC, mae ein harweinwyr cwrs bob amser wedi ein gwthio allan o’n parth cysur i gymryd rhan mewn cymaint o brosiectau â phosibl, a dyna gyfle gwych. Roedd cael Jake a Zeus ar fwrdd y llong yn ychwanegiad gwych gan ein bod i gyd wedi gweithio’n dda fel tîm i sicrhau gosodiad cyflym, proffesiynol, ac anymwthiol, sydd wedi arwain at recordiad hyfryd o anthem genedlaethol Cymru i ddod â lwc dda gobeithio i dîm Korfball Cymru!”

Mae CPO yn perfformio eu cyngerdd nesaf, A Night at the Movies, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ddydd Gwener 2 Rhagfyr. Am ragor o fanylion, ewch i: https://www.stdavidshallcardiff.co.uk/whats-on/orchestral/cpo-night-at-the-movies/