Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd

University team develops air monitor to highlight pollution challenges

Gallai dyfais gost isel i fonitro aer, a grëwyd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), chwyldroi'r ffordd mae awdurdodau'n ymateb i'r heriau a achosir gan lygredd.

Mae'r ddyfais wedi ei chynllunio a'i datblygu gan dîm PDC fel ffordd o symleiddio'r gwaith o gasglu data ar ansawdd aer.

Mae'r gwaith yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), Arloesedd Anadlol Cymru (AAC), a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI).

Cafodd tîm PDC eu hysgogi i ddatblygu'r monitor oherwydd yr effaith y gall llygredd ar ochr y ffordd ei chael ar y cyhoedd, yn enwedig disgyblion ysgol sy’n cerdded ger traffig prysur wrth deithio i’r ysgol ac oddi yno.

"Rydyn ni wedi gwneud ymdrech i sicrhau y gellir monitro ansawdd yr aer yn hawdd mewn amrywiaeth o leoliadau a bod y data a gesglir ar gael yn rhwydd," meddai'r uwch ddarlithydd Dr Leshan Uggalla.

"Ar hyn o bryd gall dyfeisiau monitro aer fod yn ddrud iawn a dim ond ar gael i gofnodi data am nifer benodol o ddiwrnodau neu wythnosau cyn cael eu symud i leoliadau eraill i wneud darlleniadau. Gall y gost hon fod yn fawr iawn, felly dim ond am gyfnod byr y byddan nhw ar waith.

"Gellir gosod y ddyfais newydd hon heb fod angen llawer o waith cynnal a chadw, ac am ffracsiwn o'r gost, a gellir casglu a delweddu'r data yn hawdd iawn trwy rwydweithiau a dyfeisiau clyfar.

"Mae hyn yn golygu y gall aros yn ei lle am gyfnod hirach o lawer, a chasglu llawer iawn mwy o wybodaeth, gan roi mwy o fanylion i lunwyr polisïau am yr hyn y gallai fod ei angen i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer. Rydyn ni’n gobeithio cael cyfarfodydd gyda chyrff cyhoeddus eraill a allai fod â diddordeb mewn defnyddio'r monitor sydd wedi’i ddatblygu gan PDC.

Air monitor main"Gallai integreiddio technolegau ymhellach, fel Deallusrwydd Artiffisial, gynnig atebion cyflym i leihau'r llygredd, fel cynnig llwybrau gwahanol i draffig a rheoli cyflymderau ar y ffyrdd i reoli'r lefelau llygredd."

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae mynd i'r afael â llygredd aer yn un o'r heriau mwyaf cymhleth rydyn ni’n eu hwynebu, heb ateb syml.

"Mae'n wych gweld llywodraeth leol a'r byd academaidd yn cydweithio ar fater mor bwysig ac yn datblygu technoleg sy'n ychwanegu at alluoedd a dealltwriaeth Cymru yn y maes hwn.

"Rydw i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddechrau eu taith LoRaWAN drwy gyllid Cymoedd Technegol."

Dywedodd y Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Newid Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol: "Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o brosiect mor arloesol, sydd wir yn creu’r posibilrwydd o gipio’r data hanfodol hwn yn haws ac mewn ffordd fwy cost-effeithiol.

"Mae'n wych gweld dyfais mor arloesol yn cael ei chreu a'i datblygu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n ychwanegu at yr enw da ardderchog sydd gan PDC yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y dechnoleg ar waith, a'n helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol i greu amgylchedd iachach i'n trigolion."

Dywedodd Dr Philip Webb o AAC: "Fel Prif Swyddog Gweithredol Arloesedd Anadlol Cymru, rwy'n hynod falch ein bod ni wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn.

"Mae ansawdd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles ein poblogaeth ac mae gallu monitro ansawdd aer yn gywir yn hollbwysig - gan ei fod yn ein galluogi i allu asesu effaith amser real llygredd ond hefyd am ei fod yn cynhyrchu data ynglŷn â sut y dylen ni ddylunio ac adeiladu ein tai,  trefi a dinasoedd yn y dyfodol i gefnogi lles y cenedlaethau sydd i ddod."

Dywedodd yr Athro Andrew Ware, Cyfarwyddwr Ymchwil gyda WIDI ac Athro Cyfrifiadureg PDC: "Mae ansawdd aer gwael yn arwain at fywydau byrrach, yn creu galwadau sylweddol ar y gwasanaeth iechyd, ac yn difetha'r amgylcheddau rydyn ni'n byw ynddyn nhw.

"Gall mesur ansawdd aer helpu i benderfynu beth sy'n achosi aer o ansawdd gwael. Pan fo’r rheswm neu’r rhesymau’n wybyddus, mae modd gwneud penderfyniadau ynghylch pa ymyriadau sy'n briodol i geisio unioni'r sefyllfa."

Ariennir y prosiect gan gyllid ymchwil mewnol y Brifysgol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).