Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang - Arwain y ffordd ar entrepreneuriaeth graddedigion
14-11-2022
Ar ddechrau'r
Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, mae Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil
ac Ymgysylltu â Busnes PDC, yn esbonio sut rydyn ni’n cefnogi unigolion i
ddechrau eu busnesau eu hunain.
Byddwn yn rhannu storïau ysbrydoledig ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos
hon i nodi’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, gan ddefnyddio'r hashnod
#GEW2022/#WEF2022.
Am y ddwy flynedd
ddiwethaf, mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi bod ar flaen y gad ymhlith sefydliadau
addysg uwch yng Nghymru o ran datblygu cwmnïau newydd.
Mae entrepreneuriaeth yn edefyn sy'n rhedeg drwy’r cyfan a wnawn yn PDC, ac mae’n gefn i’n gweledigaeth i newid bywydau a'n byd er gwell. Un o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n gwneud hyn yw drwy gefnogi ein graddedigion i gyflawni eu dyheadau o ran gyrfa. I rai, mae hyn yn golygu mentro arni a dechrau eu busnes eu hunain.
Yn ogystal â helpu unigolion i gyflawni eu nodau eu hunain, mae cefnogi busnesau newydd ein graddedigion yn bwysig am nifer o resymau eraill gan ei fod yn helpu i sbarduno arloesedd a thwf economaidd yn ein rhanbarth ac ysbrydoli eraill i roi cynnig arni.
Yn PDC rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein graddedigion i gychwyn eu busnesau eu hunain ac rydyn ni’n cynnig llawer iawn o gefnogaeth gan dîm profiadol a thalentog iawn. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth un-wrth-un, cyfleoedd i rwydweithio ag unigolion o’r un anian, mentoriaeth, a mynediad i'n mannau deori pwrpasol trwy ein Stiwdio Startup.
Y casgliad cynhwysfawr hwn o gymorth sydd wedi ein galluogi i fod y brifysgol sydd wedi ysbrydoli'r nifer uchaf o fusnesau newydd gan raddedigion o blith holl brifysgolion Cymru am y ddwy flynedd ddiwethaf – rywbeth rydyn ni’n falch iawn ohono.
Mae'r canlyniadau trawiadol hyn yn bwydo i mewn i'n Harolwg Rhyngweithio Busnes a Chymuned Addysg Uwch (HEBCI), sydd yn ei dro yn llywio ein cyllid fel y gallwn barhau i fuddsoddi yn y gefnogaeth hon ac adeiladu ar y canlyniadau rydyn ni eisoes wedi'u sicrhau.
Rydyn ni’n falch iawn o'n holl raddedigion sydd wedi dechrau eu busnesau eu hunain, a byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth iddynt ddatblygu mentrau yn y dyfodol.
Mae'n bleser felly eich annog i edrych ar yr ystod eang o ddigwyddiadau mae PDC wedi'u dwyn ynghyd ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 drwy ymweld ag Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang | Prifysgol De Cymru
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022