Cyn AS Ann Clwyd yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan PDC

Ann Clwyd

Mae’r cyn AS Ann Clwyd wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon.

Mae Ann Clwyd yn wleidydd a wasanaethodd fel AS Llafur Cymru dros Gwm Cynon o 1984 tan 2019. Hi oedd yr AS Llafur a wasanaethodd hiraf yng Nghymru erbyn iddi roi’r gorau i’r swydd, ar ôl cynrychioli ei hetholaeth am 35 mlynedd. 

Mae Ann yn gyn-newyddiadurwr gyda’r BBC a gwasanaethodd fel ASE cyn iddi gael ei hethol am y tro cyntaf yn isetholiad 1984. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd hawliau dynol ers tro ac wedi ymgyrchu ar faterion rhyngwladol a domestig.

Wrth dderbyn y ddoethuriaeth er anrhydedd, dywedodd Ann: “Fel cyn AS Cwm Cynon rwyf wrth fy modd yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru.

“Rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn yn ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder, diolch am y gydnabyddiaeth ond dydw i ddim wedi gorffen eto!”