Doethuriaeth er Anrhydedd i'r Pennaeth Tân arloesol Dr Sabrina Cohen-Hatton

Sabrina Cohen-Hatton

Mae Dr Sabrina Cohen-Hatton, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex, wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon.

Mae Sabrina, sy’n wreiddiol o Gasnewydd, yn un o’r diffoddwyr tân benywaidd uchaf yn y DU. Ar ôl cael ei gwneud yn ddigartref yn ei harddegau, ymunodd â’r gwasanaeth tân yn Ne Cymru yn 18 oed ochr yn ochr ag astudio ar gyfer gradd baglor mewn Seicoleg.

Yn ddiweddarach enillodd Cohen-Hatton PhD mewn Niwrowyddoniaeth Ymddygiadol ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i wneud ymchwil i reoli digwyddiadau yn y gwasanaethau brys.

Yn 2019, cafodd ei henwi yn un o Lunwyr y Dyfodol Marie Claire.

Ar ôl derbyn yr anrhydedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru Casnewydd (ICC Wales) dydd Iau 12 Ionawr, dywedodd Dr Cohen-Hatton: “Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru ac ymuno â’m holl gyd-raddedigion heddiw. Rwy'n gwybod pa mor arbennig yw’r diwrnod hwn.

“Fy nghyngor i holl raddedigion PDC yw mwynhau pob llwyddiant y byddwch chi’n ei gael, ond pan fyddwch chi’n gwneud camgymeriad, peidiwch â phoeni, oherwydd dyna pryd rydych chi’n dysgu sut i godi drachefn eto.”