Dosbarth llawn o raddedigion dosbarth cyntaf i Heddlu Dorset

Dorset Police cohort

Rhai o'r garfan o Dorset (o'r chwith i'r dde):

Tom Henley, Elliot Labouchardiere, Scott Williams, Charlie Frost, Sophia Winborn



Yr wythnos hon, mae Heddlu Dorset yn cael dathliad deublyg. Dyma’r seremoni raddio gyntaf i’w swyddogion heddlu dan hyfforddiant Prifysgol De Cymru (PDC), ac maen nhw i gyd wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

PDC yw’r unig brifysgol yn y DU i weithio gyda heddluoedd lluosog ar draws Cymru a Lloegr i ddarparu addysg heddlu arbenigol. Maen nhw’n cynnig gradd prentisiaeth tair blynedd mewn Plismona, neu ddiploma dwy flynedd i’r rhai sydd eisoes â gradd.

Mae rhaglen Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd a charfan Heddlu Dorset yw’r garfan gyntaf o Loegr i groesi’r llwyfan.

Mae'r cydweithrediad galwedigaethol yn paratoi swyddogion yr heddlu ar gyfer eu gyrfaoedd dewisol trwy brofi galluoedd plismona gweithredol a thrylwyredd academaidd.

Dywedodd John Gately, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Plismona: “Ar ran PDC, hoffwn ddiolch i’r holl bobl ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i wella’r rhaglen a’r gwahanol gyrsiau. Mae Heddlu Dorset yn bartner gwych ac wedi ymrwymo i helpu'r holl swyddogion dan hyfforddiant trwy amseroedd da a heriol.

“Drwy gydol yr amser hwn, rydym wedi gweld myfyrwyr ymroddedig yn jyglo gwaith heddlu gweithredol gydag astudio a hyfforddiant. Nid ydym yn diystyru'r ymroddiad a'r ymdrech sydd eu hangen ac rydym yn gwneud gwelliannau'n gyson ar sail eu hadborth. Mae hyn yn ein helpu i greu diwylliant tîm moesegol ac mae’n cadw at Weledigaeth Plismona 2025 i wreiddio arfer proffesiynol cyson sydd wedi’i seilio’n foesegol ac yn wybodus.

“Dymunwn bob llwyddiant i’r graddedigion.”

Mae PDC hefyd mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Swydd Gaerloyw, Heddlu Wiltshire, a Heddlu Dyfnaint a Chernyw.