Hanesion Graddio | Donna-Louise yn wynebu profiad trawmatig o ymosodiad rhywiol i ysgrifennu nofel

Donna-Louise Bishop 1

Mae mam i dri a oroesodd ymosodiad rhywiol difrifol yn ei harddegau ifanc wedi ysgrifennu nofel yn seiliedig ar ei phrofiad – a bydd yn graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon gyda gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. 

Dychwelodd Donna-Louise Bishop, 37, o Norwich, Norfolk, i PDC i ddilyn ei gradd Meistr ar ôl syrthio mewn cariad â De Cymru fel myfyriwr israddedig. 

“Credwch neu beidio, roeddwn i’n casáu Saesneg yn llwyr yn yr ysgol uwchradd!” meddai Donna-Louise, sy'n fam i Adam sy’n naw oed, James sy’n wyth oed a Harrison sy'n bump oed.

“Yna cyrhaeddais ddiwedd fy Lefel A a darganfod y gallwn astudio Ysgrifennu Creadigol fel gradd. Felly, dychwelais i'r coleg i gael fy Lefel A Saesneg (mewn blwyddyn yn unig yn hytrach na dwy) a llwyddais i gofrestru ar y radd Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Morgannwg fel yr oedd bryd hynny, lle graddiais yn 2007 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.”

“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r amser a dreuliais fel myfyriwr israddedig, ac er fy mod yn falch o gael fy ngeni a’m magu yn Norfolk, nid yw’n gyfrinach bod fy nghalon lenyddol yn perthyn i Gymru. Cymru am Byth!”

Fel newyddiadurwr a gohebydd i’r Eastern Daily Press – ei hysgrifennydd ysgrifau coffa pwrpasol ar hyn o bryd – mae Donna-Louise yn treulio’i diwrnod yn adrodd storïau pobl eraill. Ond ei phrofiad dirdynnol ei hun o gael ei denu gan ysglyfaethwr ar-lein yn 14 oed a ysbrydolodd ei phrosiect diweddaraf, nofel o’r enw On the Other Side.

Ar ôl dychwelyd i astudio yn 2016, dychwelodd i PDC ar gyfer yr MPhil mewn Ysgrifennu, a chychwyn ar daith bum mlynedd a’i gwelodd hi'n delio â'i chyfran deg o rwystrau.

“Rydw i wedi mynd trwy lawer o bethau da a drwg ers dechrau fy ngradd Meistr,” meddai Donna-Louise, sydd hefyd yn diwtor i dîm dysgu oedolion Cyngor Sir Norfolk. “Ar raddfa fwy, roedd pandemig Covid-19, ond yn nes at adref cefais feichiogrwydd annisgwyl yn 2017 a chwalodd fy mhriodas y flwyddyn ganlynol, a arweiniodd at ysgariad. Mae gen i glefyd Crohn hefyd a chefais ddiagnosis o anemia a gorbryder difrifol.

“Ond diolch byth cefais gymaint o gefnogaeth gan fy ngoruchwylwyr, Barrie Llewelyn a’r Athro Diana Wallace, gan fy nyweddi gwych Allan a’m rhieni bendigedig, sydd oll wedi bod fy nghefnogwyr mwyaf. Allwn i ddim fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw.”

Fel rhan o’i gradd Meistr, roedd Donna-Louise yn awyddus i ddefnyddio ei phrofiad o gam-drin rhywiol fel sail i’w thraethawd ymchwil, yn dilyn ymlaen o brosiect y dechreuodd fel myfyriwr israddedig.

Meddai: “Roedd ysgrifennu’n broses ryddhaol iawn i weithio drwy’r hyn oedd wedi digwydd i mi, a chefais fy nghyfareddu gan y ffordd y mae ffuglen yn delio â thrawma, a sut mae menywod yn cael eu cynrychioli trwy lais naratif.

“Fe wnaeth y gwaith hwn fy helpu i ysgrifennu fy nofel, sydd yn ogystal â bod yn stori dod i oed hefyd yn delio â’r hyn sy’n digwydd i ferch ifanc, 14 oed, ar ôl ymosodiad rhywiol difrifol. Mae hefyd yn edrych ar yr effaith y mae'n ei chael ar ei theulu, sut mae'r rhai o'i chwmpas yn edrych arno a chymdeithas yn gyffredinol.

“Pan fydd rhywun yn magu perthynas amhriodol â chi fel unigolyn, dydych chi ddim yn ymwybodol o gyd-destun ehangach yr hyn sy'n digwydd i chi mewn gwirionedd, a dim ond pan wnes i ysgrifennu fy nofel y sylweddolais faint yr oeddwn i wedi bod drwyddo. Yn fy arddegau syrthiais i’r fagl o feddwl fy mod yn byw rhyw fath o stori garu, ond o astudio llenyddiaeth ar gyfer fy nhraethawd ymchwil sylweddolais ei fod ymhell o hynny – roedd yr hyn a ddigwyddodd i mi yn erchyll, ond yr hyn a sylweddolais oedd nad oeddwn ar fy mhen fy hun.

“Gallwn ddechrau dod i delerau â’r hyn oedd wedi digwydd, ac fe wnaeth gwneud y Radd Meitr ganiatáu i mi archwilio hynny a dod o hyd i heddwch, sydd o ganlyniad yn golygu fy mod yn gallu helpu pobl eraill. Rydw i eisiau helpu goroeswyr eraill, i roi llais iddyn nhw fel nad ydyn nhw’n ofni siarad am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.”

Ar ôl astudio’n rhan-amser trwy gydol y pandemig COVID-19, gyda thri mab i ofalu amdanynt a’r angen i ymdrin â’i thrawma personol ei hun, mae Donna-Louise yn teimlo ymdeimlad o gyflawniad hyd yn oed yn fwy i fod yn graddio gyda gradd Meistr. Ers hynny mae hi wedi derbyn cwnsela gan elusen o Norfolk, Sue Lambert Trust, sy’n darparu cymorth i oroeswyr trais rhywiol.

“Y peth mwyaf heriol wrth astudio oedd mynd o ddarllen rhai testunau trwm iawn - nid yn unig am ymosodiad rhywiol ond trawma ymhlith milwyr sy'n dioddef o PTSD a thrawma yn wynebu grwpiau lleiafrifol ynghylch materion hiliol a rhywioldeb - i orfod bod yn fam hapus a phositif i'r bechgyn," meddai. “Roedd yn bwnc mor dywyll a gymerodd lawer oddi wrthyf, ond fe wnes i elwa llawer o'r profiad hefyd.

“A minnau’n fam i fechgyn, rwy’n teimlo cyfrifoldeb cryf i fagu dynion ifanc sy’n gefnogol i fenywod ac a fydd yn siarad mewn ffordd sy’n briodol. Mae delio ag ymosodiad rhywiol wedi fy ngwneud yn gydwybodol iawn ynglŷn â gwneud y bechgyn yn ymwybodol o gydsyniad, sy’n fater mor bwysig i fod yn addysgu ein pobl ifanc amdano.

“Roedd yna foment gwirioneddol pan feddyliais na fyddwn i byth yn cyrraedd diwedd fy nghwrs, ond gallaf ddweud yn onest fod derbyn e-bost i ddweud fy mod wedi pasio wedi bod yn uchafbwynt fy mywyd,” meddai. “Rwyf wrth fy modd yn gallu dweud wrth fy mhlant, ydy, mae’n anodd, yn anodd iawn a dweud y gwir, ond gyda chefnogaeth dda o’ch cwmpas a phenderfyniad, gallwch gyflawni’r hyn sy’n ymddangos yn amhosibl.”