Mis Hanes Anabledd | Mae PDC a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf yn cydweithio i fwyhau llais cyfunol pobl ag anableddau dysgu

Learning Disability Nursing

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cyllid gan Bobl yn Gyntaf Cwm Taf, elusen sy'n cael ei chynnal gan ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, i archwilio profiadau byw pobl ag anableddau dysgu dros gannoedd o flynyddoedd.

Y nod yw archwilio llais cyfunol pobl ag anableddau dysgu, yng Nghwm Taf, o brofiadau mewn sefydliadau Fictoraidd i brofiadau’r dydd hwn.

Yn 2024, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i ranbarth Cwm Taf. Y blynyddoedd lle cynhaliwyd yr Eisteddfod yn y rhanbarth yn flaenorol fydd y mannau cyswllt hanesyddol ar gyfer yr ymchwil, o mor bell yn ôl â 1861.

Dywedodd Dr Steven Walden, Cymrawd Ymchwil a Darlithydd Nyrsio Anabledd Dysgu: "Bydd rhai o aelodau hŷn Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn cofio, ac y bydd ganddynt brofiad o’r sefydliadau y cafodd pobl ag anableddau dysgu eu gorfodi i'w dioddef. Er bod gwasanaethau wedi dod yn bell ers hynny, mae pobl yn dal i fyw gyda chyfyngiadau sefydliadol ac yn brin o ryddid penodol fel cyrffyw, mynediad at addysg, a'r dewis o ddechrau teuluoedd. Mae'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith ac ni ddylent fod, a dyna pam y mae'n rhaid i ymchwil archwiliol ddatgelu'r anghydraddoldebau hyn.

"Yn ogystal ag archwilio'r hanes, bydd yna fynegiant artistig ar y Maes yn Eisteddfod 2024. Bydd elfen celfyddydau perfformio'r prosiect yn cynnwys gwaith celf a chân, gan ganolbwyntio ar lais pobl ag anableddau dysgu, gan ddefnyddio cynhwysiant cymunedol ac undod fel themâu. Bydd y gân yn cael ei pherfformio yn Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain."

Cysylltodd Dawn Price, o Bobl yn Gyntaf Cwm Taf, â Dr Walden yn dilyn eu cydweithrediad ymchwil blaenorol, gyda'r Athro Cyswllt Owen Barden ym Mhrifysgol Hope Lerpwl. Ymchwilion nhw i achos Antonia Grandoni, menyw ag anableddau dysgu a oedd yn byw yn yr Eidal yn ystod y 19eg Ganrif. Canfuwyd bod llawer o brofiadau Antonia yn ymddangos yn debyg i'r hyn y mae pobl ag anableddau dysgu yn aml yn dod ar eu traws heddiw, gan gynnwys gwahaniaethu, gwahanu a dad-ddyneiddio.

Dywedodd Dr Walden: "Amlygodd achos Antonia nad yw'r cyfyngiadau a osodwyd ar bobl ag anableddau dysgu a ddylai fod wedi eu gadael yn y gorffennol wedi cael eu gadael yn y gorffennol. Rhan o'r rheswm dros wneud yr ymchwil hon gyda Phobl yn Gyntaf Cwm Taf yw sicrhau bod llais cyfunol pobl ag anableddau dysgu yng Nghwm Taf yn parhau i gael ei glywed mewn ffyrdd newydd ac arloesol er mwyn cyrraedd ymwybyddiaeth y cyhoedd. Y rheswm arall yw rhoi dewisiadau i bobl ag anableddau dysgu yn yr hyn maen nhw am ei ymchwilio. Fel gyda phapur Antonia Grandoni, mae'r ymchwil yn gwbl gyfranogol. Cafodd prosiect ymchwil hanesyddol yr Eisteddfod ei ddewis gan aelodau Pobl yn Gyntaf Cwm Taf. Bydd y papur academaidd sy'n deillio o hyn yn cael ei gyfrannu ato a'i gyd-ysgrifennu gan aelodau Pobl yn Gyntaf."

Dywedodd Dawn Price, Rheolwr Sefydliadol Pobl yn Gyntaf Cwm Taf: "Mae canfyddiadau'r archwiliad hwn o'r gorffennol a'r oes bresennol wedi synnu ein haelodau iau ag anableddau dysgu, yn enwedig y ffordd y cafodd pobl eu trin yn y gorffennol a sut roedd yn rhaid iddynt frwydro i wneud eu bywydau yn well ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at arddangos ein canfyddiadau ar y Maes yn 2024."