PDC yn cyhoeddi partneriaeth gydag elusen ieuenctid arloesol yng Nghasnewydd

UCN USW MOU

Donna Whitehead, Dirprwy Is-Ganghellor a Peter Landers, Cadeirydd Urban Circle Newport


Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi llofnodi partneriaeth strategol gyda Urban Circle Newport (UCN), sefydliad celfyddydau ieuenctid annibynnol ac elusen gofrestredig.

Wedi'i sefydlu yn 2006, mae UCN yn ymgysylltu, cefnogi a grymuso pobl ifanc a chymunedau.  Graddiodd Loren Henry, cyd-sylfaenydd UCN, o  Brifysgol De Cymru gyda BA (Anrh) mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ac MA Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc.  

Yn 2020, cafodd gwaith cydweithredol UCN a Phrifysgol De Cymru ei ganmol gan arolygwyr addysg Estyn yn eu hadroddiad o'r enw ‘Gwerth hyfforddiant gwaith ieuenctid: model cynaliadwy i Gymru’. Fe dynnon nhw sylw at y manteision y mae'r bartneriaeth yn eu cynnig i elusennau, staff, y bobl ifanc mae'n eu helpu, a myfyrwyr Gwaith Ieuenctid PDC.

O dan y categorïau cyfranogiad, cynhwysiant, a datblygu, bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MC) yn:

  • Cefnogi’r gwaith o recriwtio myfyrwyr a chynnal digwyddiadau cymunedol
  • Darparu darlithwyr gwadd ar gyfer rhaglenni PDC
  • Darparu cyfleoedd lleoliadau gwaith i fyfyrwyr
  • Datblygu cyfleodd dysgu proffesiynol i fyfyrwyr, staff, ac ysgolion lleol
  • Darparu arweiniad a chymorth i PDC mewn materion yn ymwneud â Hanes Pobl Dduon, ac adnoddau, deunyddiau a gweithdai gwrth-wahaniaethu
  • Cydweithio gyda sefydliadau cymunedol eraill ledled Casnewydd a'r rhanbarth i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o fentrau dinesig ehangach

Dywedodd Peter Landers, Cadeirydd UCN: "Rydym yn falch iawn o ffurfioli'r berthynas ddynamig hon sy’n datblygu mwyfwy. Mae Urban Circle Newport yn sefydliad arbenigol sy'n gwneud gwaith arbennig mewn amgylchedd sy'n cynyddol amrywiol. Rydym yn falch iawn o ddod yn bartneriaid gyda sefydliad addysgol o safon Prifysgol De Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth fydd yn arwain at ddeilliannau gwell i'r naill sefydliad a’r llall".

Dywedodd Donna Whitehead, Dirprwy Is-Ganghellor PDC: "Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn cydweithio gydag UCN ers cryn amser, ond mae'n fraint fawr llofnodi’r bartneriaeth hon fydd yn cyfoethogi ein perthynas waith.

"Mae PDC yn falch o'r berthynas sydd rhyngddi a gwahanol sefydliadau, ac mae hyn wrth wraidd ein strategaeth 2030, fel y mae datblygu ein presenoldeb yng Nghasnewydd  a chyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol y ddinas a'r rhanbarth ehangach."

 

Cafodd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ei lofnodi mewn seremoni ar gampws Casnewydd PDC ar ddydd Iau 19 Ionawr.