PDC yn cynnal digwyddiad diogelwch blaenllaw yng Nghasnewydd
13-01-2023
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ddigwyddiad diogelwch rhyngwladol pwysig yng Nghasnewydd, yn ICC Cymru ac ar gampws PDC Casnewydd.
Mae EuroSim yn efelychiad o'r Undeb Ewropeaidd (UE), sy’n digwydd bob blwyddyn ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol brifysgolion. Mae digwyddiad o’r fath wedi ei gynnal 31 o weithiau o’r blaen. Mae’r digwyddiadau yn efelychu mater penodol a drafodwyd gan yr UE, ac fe’u cynhelir dros bedwar diwrnod, gyda'r lleoliad yn newid rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn flynyddol.
Gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd, cafodd EuroSim ei gynnal yn y DU am y tro cyntaf. Daeth dros150 o fyfyrwyr ynghyd o bob rhan o Ogledd America, y DU, ac Ewrop.
Y pwnc eleni oedd polisïau hinsawdd ac ynni'r UE, lle heriwyd yr UE (efelychiadol) i ymateb i'r argyfwng diogelwch hinsawdd.
Neilltuwyd rolau i fyfyrwyr, gan gynnwys Aelodau o’r Senedd Ewropeaidd, aelodau o'r Comisiwn Ewropeaidd, penaethiaid llywodraethau, gweinidogion cenedlaethol, lobïwyr, a newyddiadurwyr.
Roedd y rhaglen yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio a chymdeithasu. Cludwyd y gwesteion rhwng lleoliadau gan gwmni Cludiant Casnewydd, gan gynnwys yn un o'u bysys Yutong trydan.
Cynhaliwyd cinio croeso ar y noson gyntaf, gyda Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, a Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu Busnes PDC yn bresennol ynddo.
Cafodd mynychwyr swper ar gampws Casnewydd PDC gyda Maer Cyngor Dinas Casnewydd ar yr ail noson.
Ar y noson olaf, cynhaliwyd parti cloi’r digwyddiad ym Marchnad Casnewydd.
Dywedodd Christian Kaunert, Athro Plismona a Diogelwch PDC a Chyfarwyddwr Consortiwm Traws-Iwerydd ar gyfer Astudiaethau'r Undeb Ewropeaidd: "Mae EuroSim yn brofiad unigryw. Mae dod i gysylltiad â gwahanol ddiwylliannau, normau, polisïau, a chyfreithiau, a dysgu amdanyn nhw, yn elfen hanfodol o addysg o'r radd flaenaf i fyfyrwyr.
"Mae paratoi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion cynhyrchiol mewn amgylchedd byd-eang, integredig, sy’n mynd yn fwyfwy cyd-ddibynnol, yn gofyn am ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gyrru cysylltiadau rhwng gwahanol wledydd, cwmnïau, sefydliadau, a phobl, yn ogystal â'r cyfleoedd sy'n bodoli'n ddomestig ac yn rhyngwladol yn sgil globaleiddio yn ei amryw weddau.
"Roedd rhoi cyfle o’r fath i’n myfyrwyr, ac hyrwyddo Cymru â'i hanes, ei diwylliant a'i thraddodiadau hir, yn bleser ac yn anrhydedd mawr i fi. Hoffwn ddiolch i Gyngor Casnewydd a Chludiant Casnewydd am eu cefnogaeth anhygoel i'r digwyddiad."
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: "Mae un o'n pedwar prif faes arbenigedd a thwf yn canolbwyntio ar drosedd, diogelwch a chyfiawnder. Ein nod yw addysgu myfyrwyr, ysbrydoli ymarferwyr, a rhoi hwb i sefydliadau, drwy ddysgu ac addysgu arloesol ar sail her, ymchwil a dadansoddi amlddisgyblaethol rhagorol, a chydweithio strategol gwerthfawr.
"Mae digwyddiad EuroSim wedi’i seilio ar ddysgu efelychiadol, sy'n rhywbeth sydd wrth wraidd ein dysgu yn PDC. Drwy ymdrochi mewn sefyllfaoedd ac amgylcheddau tebyg i’r rhai y gallai myfyrwyr eu hwynebu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol, mae’r math hwn o ddysgu yn sicrhau y byddant mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael ag unrhyw heriau yn uniongyrchol, diolch i’r profiadau a'r sgiliau gwerthfawr y maent wedi'u datblygu yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Penodwyd tîm dylunio ar gyfer adeilad arfaethedig newydd ar Gampws Trefforest PDC
31-03-2023

Myfyriwr sinema Finnuala yn cwisiau Hugh Jackman ar setiau ffilm cefnogol
31-03-2023

PDC yn cynnal cystadleuaeth Celfyddydau Perfformio gyntaf ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
30-03-2023

Ydy gwasanaethau cymdeithasol Cymru’n gwireddu addewidion deddfwriaeth allweddol?
30-03-2023

PDC yn ymuno â phartneriaid mewn carreg filltir bwysig o ran cynhyrchu hydrogen gwyrdd
29-03-2023

Partneriaeth ymchwil dan arweiniad PDC yn sicrhau contract gwerth miliwn o bunnoedd
27-03-2023

PDC yn ennill contractau gofal iechyd gwerth £2 miliwn
26-03-2023

Mae PDC yn cefnogi Coed Caerdydd i blannu coed ar Gampws Caerdydd
24-03-2023

Cyn-fyfyrwyr PDC a weithiodd ar yr animeiddiad Pinocchio a enillodd Oscar
23-03-2023