PDC yn ennill contractau gofal iechyd gwerth £2 miliwn

Adult Nursing


Mae PDC wedi sicrhau £2 miliwn arall o gyllid gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i gynnig dau gwrs ychwanegol ochr yn ochr â'n portffolio gofal iechyd presennol.

Yn ystod cam cyntaf y broses gomisiynu, dyfarnodd AaGIC gytundebau gwerth £20m i PDC  ar gyfer darparu addysg gyn gofrestru broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys nyrsio a bydwreigiaeth, y mae PDC wedi'u darparu ers blynyddoedd lawer, a thair disgyblaeth newydd sef Therapi Galwedigaethol, Ymarfer Adrannau Llawfeddygol a Ffisiotherapi.

Mae ail ran y broses dendro hon, sy'n cael ei chynnal dros nifer o flynyddoedd, yn adlewyrchu gofynion addysgol amrywiol gweithlu gofal iechyd modern, ac yn cynnwys ystod eang o addysg gyn gofrestru.

Y cyntaf o'r contractau hynny yw, 'Rhaglen Lefel 4 Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd', sy’n gymhwyster ran amser blwyddyn o hyd.  Mae ymgeiswyr ar y rhaglen hon eisoes yn gweithio i’r GIG ac, ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, gallant symud yn eu blaen i flwyddyn 2 y rhaglen Nyrsio gyn gofrestru.

Yn ogystal, mae'r contract ar gyfer 'Tystysgrif Ôl-radd mewn Gofal Critigol' wedi'i ddyfarnu i PDC.  Mae'r rhaglen ôl gofrestru hon wedi'i chynllunio ar gyfer staff sy'n gweithio yn adrannau gofal critigol y GIG.

Dywedodd Dr Ian Mathieson, Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu Busnes (Iechyd a Gofal Cymdeithasol): "Mae'r rhain yn ddyfarniadau pwysig sy'n ein symud tuag at ein nod o fod yn gyfadran gofal iechyd bwysig, amlddisgyblaethol sy'n gwneud cyfraniad  sylweddol at ddarparu gofal o ansawdd uchel mewn ystod eang o amgylcheddau. Mae ein gwaith yn tendro ar gyfer y rhaglenni hyn, a'n llwyddiant i’w sicrhau, yn dangos ein hymrwymiad i ddiwallu anghenion gwasanaethau a chleifion y GIG yng Nghymru’r dyfodol.

"Wrth i gam dau fynd yn ei flaen, byddwn yn paratoi cynigion ar gyfer ystod o ddyfarniadau  sy'n adlewyrchu ein darpariaeth ac arbenigedd ein cydweithwyr gofal iechyd.

"Uchelgais PDC yw bod yn brif ddarparwr gofal iechyd sylfaenol i Gymru – dyma gam pwysig arall tuag at wireddu’r uchelgais honno. "