Sut gallai Deallusrwydd Artiffisial (DA) helpu gyrwyr ifanc i dorri costau yswiriant modur
19-01-2023
Mae ap sy'n defnyddio DA i fonitro amodau gyrru a data damweiniau yn y byd go iawn, ynghyd â phroffilio gyrwyr a cherbydau, wedi cael ei gyfoethogi a’i wella gan Brifysgol De Cymru (PDC) a gwasanaeth yswiriant ceir yng Nghaerdydd.
Wedi i'r system gael ei datblygu ymhellach, gobaith y dylunwyr yw y gallai helpu gyrwyr ifanc i dorri costau yswiriant modur drwy brofi eu bod yn ddiogel ar y ffyrdd.
Yn gweithio gyda Chanolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) PDC, mae Driverly Insurance wedi datblygu'r ap fel rhan o genhadaeth y cwmni i ddarparu heolydd mwy diogel yn y DU wrth wobrwyo ymddygiadau da wrth yrru.
Mae ap Driverly yn monitro ac yn cofnodi dwsinau o wahanol feini prawf gyrru fel y gall defnyddwyr greu darlun cywir o'u harferion gyrru, a all fod o fudd uniongyrchol iddyn nhw'n ariannol.
Ar ôl monitro arferion gyrru unigolion yn wreiddiol, mae Driverly bellach wedi ychwanegu haenau pellach at y dechnoleg, diolch i'r arbenigwyr yn CEMET. Yn ogystal â chofnodi ymddygiad gyrru, gall yr ap hefyd greu proffil o holl ddamweiniau ffordd y DU, ynghyd â rhagolygon tywydd amser real i greu dehongliad DA o amodau gyrru yn y byd go iawn, a thrwy hynny greu proffil risg mwy manwl nag a welwyd erioed o'r blaen.
Bu Nestor Alonso, Prif Swyddog Data Driverly, yn gweithio'n agos gydag arbenigwyr CEMET ar y datblygiad.
"Ar ôl dylunio ac adeiladu'r ap, cysylltodd Driverly â CEMET i fynd ag ef i'r lefel nesaf. Mae CEMET wedi ychwanegu haen newydd ar sail cyd-destun defnyddwyr unigol: cyflwr y ffyrdd ac amodau’r tywydd - sydd erioed wedi'i wneud o'r blaen drwy ap yn y diwydiant yswiriant.
"Gyda'r haenau ychwanegol hyn, byddwn yn gallu cynnig y dadansoddiad risg amser real mwyaf datblygedig erioed i yrwyr ifanc, a thrwy hynny gynnig premiymau yswiriant iddynt sydd wir yn adlewyrchu eu harferion gyrru ac – yn hollbwysig – eu hamgylcheddau gyrru.
"Mae hyn yn newyddion gwych i yrwyr ifanc, ac yn newyddion gwych i'r diwydiant yswiriant. Rydym yn dileu llawer o'r gwaith dyfalu o yswirio gyrwyr iau sy'n draddodiadol yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i bolisïau yswiriant â phris cystadleuol. Ar yr un pryd, rydym yn helpu i annog gyrru mwy diogel ymhlith ein cwsmeriaid, a gwobrwyo'r gofal a'r sylw hwnnw gyda phremiwm is a gwobrau eraill."
I arbenigwyr CEMET, roedd gweithio ar brosiect Driverly yn cynnig heriau newydd i'w harbenigedd.
"Roedd prosiect Driverly yn ddiddorol iawn; mae'n braf ymgysylltu â chwmni sy'n gwthio'r ffiniau," meddai Seamus Ballard-Smith o CEMET.
"Roedd y prosiect ei hun yn gysyniadol syml ond fe ddaeth â sawl her dechnegol yn ei sgil. Mae cyfuno data o sawl ffynhonnell ar un platfform yn gofyn am amser i fireinio’r holl ddata amrywiol yn un gronfa ddata, ac yna roedd datblygu algorithmau cyfrifo risg yn llawer o hwyl."
Roedd y berthynas gyda CEMET hefyd yn brofiad gwych i dîm Driverly. "Yr unig reswm na alla i roi 10 allan o 10 i’r profiad oedd bod y cyfnod cydweithio wedi bod yn rhy fyr. Fe wnes i ei fwynhau gymaint," meddai Mr Alonso.
Mae CEMET yn galluogi Busnesau Bach a Chanolig cymwys yng Nghymru i gael mynediad at ymchwil a datblygu cydweithredol wedi'i ariannu drwy broses Ymchwil a Datblygu unigryw tri cham, sy'n trawsnewid syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.
Ariennir CEMET yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) trwy Lywodraeth Cymru.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Penodwyd tîm dylunio ar gyfer adeilad arfaethedig newydd ar Gampws Trefforest PDC
31-03-2023

Myfyriwr sinema Finnuala yn cwisiau Hugh Jackman ar setiau ffilm cefnogol
31-03-2023

PDC yn cynnal cystadleuaeth Celfyddydau Perfformio gyntaf ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
30-03-2023

Ydy gwasanaethau cymdeithasol Cymru’n gwireddu addewidion deddfwriaeth allweddol?
30-03-2023

PDC yn ymuno â phartneriaid mewn carreg filltir bwysig o ran cynhyrchu hydrogen gwyrdd
29-03-2023

Partneriaeth ymchwil dan arweiniad PDC yn sicrhau contract gwerth miliwn o bunnoedd
27-03-2023

PDC yn ennill contractau gofal iechyd gwerth £2 miliwn
26-03-2023

Mae PDC yn cefnogi Coed Caerdydd i blannu coed ar Gampws Caerdydd
24-03-2023

Cyn-fyfyrwyr PDC a weithiodd ar yr animeiddiad Pinocchio a enillodd Oscar
23-03-2023