Hanesion Graddio | Un o raddedigion PDC yn helpu gyda phenderfyniadau llawfeddygol
12-01-2023
Dr George Rose
Yr wythnos hon, mae Dr George Rose yn graddio gyda PhD o Brifysgol De Cymru (PDC). Mae ei ymchwil, i brofion ymarfer cyn llawdriniaeth wedi arwain at ganfyddiadau pwysig ar gyfer materion clinigol.
Mewn cydweithrediad ag Adran Anaestheteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac a oruchwyliaeth yr Athro Damian Bailey, dadansoddodd Dr Rose gwerth dros ddegawd o ddata cleifion i adnabod ac arwain gofal yn well i gleifion a allai fod â risg uchel o farw neu ddioddef cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth.
Mae ysbytai’n profi ffitrwydd cleifion yn aml i asesu pa mor addas maen nhw ar gyfer llawdriniaethau mawr, drwy fesur perfformiad y galon a'r ysgyfaint wrth gyflenwi ocsigen tra’n gorffwys ac yn ymarfer y corff. Gelwir hyn yn brawf ymarfer cardiopwlmonaidd.
Fodd bynnag, twriodd Dr Rose yn ddyfnach i ddata dros 3000 o gleifion, i ddeall ffitrwydd cardioresbiradol yn well – hynny yw, pa mor dda y gall y corff gyflenwi a defnyddio ocsigen i gynhyrchu ynni.
"Mae mynd drwy lawdriniaeth wedi cael ei ymdebygu i redeg marathon, o ran y straen sydd ar y corff. Mae'r galon a'r ysgyfaint yn cludo ocsigen i'n cyhyrau a'n horganau, ac roeddwn i eisiau deall sut mae cleifion llawfeddygaeth yn ymateb i fwy o alw am ocsigen. Mae'r wybodaeth honno yn rhagfynegydd cryf o sut y byddan nhw'n ymdopi â llawdriniaeth."
"Mae fy ymchwil wedi dangos bod cleifion sydd â lefel uwch o ffitrwydd cardioresbiradol bum gwaith yn fwy tebygol o oroesi llawdriniaeth, yn llai tebygol o dreulio amser ar Ward Dibyniaeth Uchel ac yn gadael yr ysbyty ddeuddydd ynghynt."
Mae ymchwil Dr Rose wedi ennyn diddordeb clinigwyr o ran dulliau paratoi cleifion ar gyfer llawdriniaeth drwy wella ffitrwydd.
"Os oes gyda chi glaf â chanser, er enghraifft, sy'n cael llawdriniaeth mewn 12 wythnos, mae cyfle i wella ei ffitrwydd gydag ymarfer corff a sicrhau canlyniadau gwell i'r llawdriniaeth. Mae'n bosib y gallen nhw adael yr ysbyty a dychwelyd i gysur eu cartrefi eu hunain yn gynt," dywedodd Dr Rose.
Cwblhaodd Dr Rose y PhD yn rhan amser dros 7 mlynedd, ochr yn ochr â'i rôl fel academydd yn cyflwyno darlithoedd ar gyrsiau BSc ac MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff PDC. Dywedodd: "Mae fy myfyrwyr wedi elwa ar addysgu wedi’i gyfoethogi gan ymchwil ac wedi gweld gwybodaeth am y pwnc yn datblygu o flaen eu llygaid, fel petai."
O ran y dyfodol, dywedodd Dr Rose: "O safbwynt personol, fy nod yw ehangu'r ymchwil gyda rhagor o astudiaethau i helpu i lywio ymarfer clinigol. Er enghraifft, wrth arsylwi gwahaniaethau rhwng ymatebion dynion a menywod i'r profion ffitrwydd cardioresbiradol, mae dynion fel arfer yn perfformio 10-30% yn well ond eto mae cyfraddau goroesi yr un fath â menywod. Ar hyn o bryd, mae'r trothwyon risg ffitrwydd ar gyfer llawdriniaeth yr un peth i’r ddau ryw, ond a ddylen ni felly gael trothwyon gwahanol ar gyfer cleifion gwrywaidd a benywaidd? Hoffwn ymchwilio ymhellach i hyn."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Örebro wedi derbyn £360,000 ar gyfer ymchwil diogelwch yr UE
20-09-2023

Anrhydeddu cwrs Meistr PDC yng Ngwobrau Fintech
15-09-2023

1973: Blwyddyn aur ar gyfer ffilm a ail-ysgrifennodd reolau'r sinema
14-09-2023

Lludw tanwydd maluriedig: sut y gallwn ailgylchu'r sgil-gynnyrch brwnt hwn o bwerdai glo
07-09-2023

PDC ar restr fer THE ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn
07-09-2023

Prosiect gwirfoddolwyr heddlu unigryw PDC
06-09-2023

Graddedigion gemau a ddewiswyd ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol Tranzfuser
31-08-2023

Chwe therm beichiogrwydd mae'n debyg na fyddwch chi'n eu clywed eto, gan gynnwys 'risg uchel' a 'methu'
30-08-2023

Drama gerdd Popeth ar y Ddaear sy'n syfrdanu cynulleidfa'r Eisteddfod Genedlaethol
25-08-2023