EIN YMATEB I COVID

Drwy gydol y pandemig, iechyd a diogelwch ein myfyrwyr, cydweithwyr, pawb sy’n cyrchu ein campysau, a’n cymunedau lleol fu ein prif flaenoriaeth.

Rydym yn awyddus ein bod yn adlewyrchu’r newidiadau sy’n cael eu gwneud mewn cymdeithas tuag at reoli a byw gyda Covid. Diolch i ymdrechion pawb rydym wedi gallu cyfyngu ar ymlediad yr haint yn y brifysgol a pharhau i weithio ac addysgu, ac rydym am i hynny barhau.

Rydym yn parhau i ddilyn unrhyw ganllawiau Covid Llywodraeth Cymru, fel ein bod yn cymryd camau priodol a chymesur i gadw pobl yn ddiogel.

Blended Learning - Updates


EIN CAMPYSAU

Staff at Students Union

Mae ein holl gyfleusterau a gwasanaethau ar y campws ar gael.

Academic Wearing A Mask

Nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol, ond mae croeso i unigolion eu gwisgo

USW Staff Cleaning High Volume Areas

Mae ein campysau'n cael eu glanhau’n rheolaidd

Hand Sanitiser Being Used

Fe welwch lanweithyddion dwylo ym mhob rhan o’n hadeiladau y mae pawb yn cael eu hannog i’w defnyddio’n rheolaidd

Covid Vaccine Being Administered

Mae pawb hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechiadau Covid-19


Dysgu ac Addysgu

Welsh Drama Class

Mae ein holl gyfyngiadau presennol cysylltiedig â Covid ar gyfer dysgu ac addysgu wedi dod i ben. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar gyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr y gallwn eu cael yn ein cyfleusterau dysgu ac addysgu.

Asesiadau Risg

Generic Image Of Student

Mae asesiadau risg Covid y Brifysgol wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran iechyd y cyhoedd a’r canllawiau perthnasol.


Y Dyfodol

Mae iechyd a lles a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff yn hollbwysig i ni. Os bydd unrhyw newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23, yna efallai y bydd angen i’r dulliau a’r gweithgareddau a fabwysiadwyd ar gyfer cyflwyno ein cwrs fod yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Byddwch yn dawel eich meddwl bod gennym ddulliau addysgu a dysgu hyblyg, technoleg briodol a’r profiad i’n galluogi i addasu ein darpariaeth yn hawdd, i’ch cefnogi i lwyddo yn eich astudiaethau, os bydd angen. 

P’un a ydych ar y campws yn llawn amser, yn rhan-amser yn astudio ar-lein, neu’n amser llawn ar-lein, mae PDC wedi ymrwymo i ddarparu profiad myfyriwr gwych a chyfoeth o gymorth i chi.

Blended Learning
Blended Learning - Working From Home
Blended Learning - In Person Teaching