Y RHEOLAU
Telerau ac Amodau’r Raffl
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal raffl lle bydd myfyrwyr sy'n cwblhau ac yn cyflwyno arolwg Cyferbyniadau Caerdydd yn cael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £50 trwy rannu eu profiadau.
- Mae hon yn raffl am ddim, sy'n cael ei chynnig gan Brifysgol De Cymru.
- Mae hi ar agor i unigolion sy'n cwblhau ac yn cyflwyno arolwg Cyferbyniadau Caerdydd erbyn 11.59pm ddydd Sul 6 Mehefin 2021 yn unig.
- Mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen sydd ar gael ar ddiwedd yr arolwg.
- Mae un wobr ar gael, sef e-daleb Amazon gwerth £50.
- Tynnir y raffl ar 7 Mehefin gydag phob unigolyn sy'n cwblhau'r arolwg yn cael ei gynnwys.
- Bydd enillydd y wobr yn cael ei dynnu ar hap a bydd hyn yn cael ei ystyried fel y cais buddugol.
- Dim ond un cais y pen.
- Ni fydd ceisiadau dyblyg yn cael eu hystyried.
- Nid oes cyfwerth ariannol amgen ar gael.
- Nid oes gwobr arall ar gael.
- Ni fydd unrhyw drafodaeth am ganlyniad y raffl.
- Hysbysir yr enillydd o fewn saith diwrnod ar ôl i'r raffl gael ei thynnu, a bydd adran Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn cysylltu â nhw trwy'r manylion cyswllt a ddarperir ar y ffurflen.
- Trwy lenwi'r arolwg, mae'r enillwyr yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd sy'n ofynnol gan y Brifysgol.