Meddwl am astudio gradd, ond yn ansicr a yw PDC yn addas i chi? Mae ein cyrsiau blasu byr yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau i'ch cyflwyno i'ch dewis faes astudio a rhoi cipolwg i chi ar sut y byddwch yn dysgu ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae cyrsiau blasu yn ffordd wych o brofi’r hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i’w gynnig ac yn rhoi gwell syniad i chi o sut beth yw astudio yma. Mae ein holl gyrsiau yn cael eu cyflwyno ar-lein ac yn cael eu cyflwyno gan ddarlithwyr yn y Brifysgol, gyda phob un yn cynnwys cymysgedd cynhwysfawr o dasgau rhyngweithiol, tiwtorialau fideo ac enghreifftiau ymarferol.
Mae cyrsiau blasu yn amrywio o ran hyd, ond gallwch chi stopio, ailddechrau neu ailchwarae'r cwrs blasu unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau. Gallwch hefyd tracio eich cynnydd yn ystod pob cwrs.
Sylwer: Ar hyn o bryd, mae ein cyrsiau blasu byr ar gael try gyfrwng y Saesneg yn unig.

GWYBODAETH BELLACH

Y ffordd orau o wybod a yw prifysgol yn addas i chi yw ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored. Gallwch gwrdd ag academyddion, crwydro'r brifysgol, ymweld â'n llety a siarad â myfyrwyr presennol. Mae ein Diwrnodau Agored yn llawn dop o bopeth y bydd ei angen arnoch.

P'un a ydych am wneud cais am gwrs israddedig, ôl-raddedig neu ymchwil, mae'n hawdd gwneud cais i astudio gyda Phrifysgol De Cymru. Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, rydym wrth law i'ch helpu drwy'r broses.