Meddwl am yrfa mewn seicoleg? Dysgwch fwy am y maes a’r mathau o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen, trwy ystod o gyrsiau blasu seicoleg Prifysgol De Cymru.

Mae'r cyrsiau blasu yn ffordd wych o brofi'r hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i'w gynnig tra'n cael syniad ai dyma'r lle iawn i chi. Mae darlithwyr yn defnyddio cymysgedd o diwtorialau fideo a thasgau rhyngweithiol wrth iddynt gyflwyno mewnwelediad i'r hyn y gallech fod yn ei astudio ar un o'n graddau seicoleg.

Gallwch chi stopio, ailddechrau ac ailchwarae'r cyrsiau ar-lein unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau.


Cyrsiau Blasu Seicoleg

psychology short courses

Seicoleg Amgylcheddol


Mae'r cwrs blasu byr hwn yn cynnwys cymysgedd o dasgau rhyngweithiol a thiwtorialau ac yn canolbwyntio ar gymhwyso seicoleg yn ein bywydau bob dydd a'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Bydd yn eich cyflwyno i wahanol agweddau ar ymddygiad dynol mewn amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Tiwtor cwrs: Rachel Taylor 

Hyd y cwrs: 60 munud


Graddau Seicoleg yn PDC

psychology

Diwrnodau Agored

Open Days Bloggers

Sgwrsiwch â ni ar-lein

Chat with us

Gwneud Gais i Astudio yn PDC

Apply to USW