Diddordeb mewn gyrfa yn deall beth sy'n gwneud i droseddwyr dicio? Bydd cwrs blasu PDC yn eich cyflwyno i’n graddau troseddeg sy’n canolbwyntio ar droseddu, dioddefwyr a chymdeithas.

Ymunwch â’n darlithwyr wrth iddynt ddefnyddio tiwtorialau fideo a thasgau i’ch helpu i ddysgu am y cysylltiad cymhleth rhwng trawma a throsedd. Bydd y cwrs blasu yn rhoi syniad da i chi o sut beth yw astudio un o’n graddau troseddeg sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar droseddu a’r system cyfiawnder troseddol, ond hefyd ar faterion cymdeithasol a hanesyddol perthnasol.

Dylai ein cwrs rhagflas, sydd tua 40 munud o hyd, roi’r wybodaeth i chi benderfynu a yw gradd troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru yn addas i chi. Gallwch chi stopio, ailddechrau ac ailchwarae'r cwrs ar-lein unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau.


Cyrsiau Blasu Troseddeg

Introduction To Criminology

Cyflwyniad i Droseddeg

Mae’r cwrs blasu byr hwn yn archwilio’r cysylltiad rhwng trawma a throsedd ac mae’n cynnwys cymysgedd o diwtorialau fideo sy’n cloi gyda chwis rhyngweithiol. Mae'r cwrs yn cymryd tua. 40 munud i'w gwblhau, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn cael eich arwain trwy'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â thrawma a sut mae trawma yn ymwneud â throseddu.

Tiwtor cwrs: Zoe Cross

Hyd y cwrs: 40 munud


Troseddeg yn PDC

criminology degrees

Diwrnodau Agored

Open Days Bloggers

Sgwrsiwch â ni ar-lein

Chat with us

Gwnewch gais i astudio yn PDC

Apply to USW