Dyma bopeth sydd angen i chi wybod am ein cyfweliadau ar-lein. Darllenwch sut i baratoi ar gyfer eich cyfweliad, cymerwch olwg ar ein horiel o luniau'r campws a dysgwch sut mae'r broses cyfweld yn gweithio.
Lawrlwythwch yr arweiniad newydd ar y broses cyfweld a derbyn. Darllenwch yr arweiniad hwn yn ofalus gan ei fod yn effeithio ar fformat cyfredol ein cyfweliadau a'r gofynion ar gyfer y profion llythrennedd, rhifedd a chyfwerthedd perthnasol.
Wedi ystyried ac adolygu'r arweiniad iechyd cyhoeddus a phryderon am y coronafeirws (COVID-19) yn ofalus, rydym wedi penderfynu gwneud trefniadau amgen ar gyfer ymgeiswyr sydd angen cael cyfweliad.
Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i symud ymlaen gyda'ch cais, rydym yn cynnig cyfle i ymgeiswyr fwcio cyfweliad ar-lein a fydd yn cael ei gynnal ar ein rhaglen gwe-gynadledda, Blackboard Collaborate.
Porwyr a gefnogir:
Cynghorwn bob un o'n hymgeiswyr i gyrchu ein cyfweliadau ar-lein gan ddefnyddio Google Chrome. Darperir cyfarwyddiadau pellach pan fyddwch yn bwcio.
Mae gofyn bod pob ymgeisydd yn mynychu cyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs gradd. Bydd methu â mynychu cyfweliad yn arwain at gais aflwyddiannus.
Pan fyddwch wedi mynd i borth Fy PDC i fwcio eich cyfweliad ar-lein, gallwch ddisgwyl y canlynol:
Ar ddiwrnod eich cyfweliad:
Rydym hefyd yn cynnig y cwrs Addysg Gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os hoffech fwy o wybodaeth ewch i'r tudalen cwrs neu e-bostiwch [email protected]
Mae Rebecca Prosser yn dysgu dosbarth Blwyddyn 2/3 mewn ysgol gynradd yn Swydd Gaerloyw.
"Y rhan rwy'n ei mwynhau fwyaf am fod yn athro cynradd yw gweld wynebau'r plant yn goleuo pan fyddan nhw'n cyflawni rhywbeth ac yn gwybod fy mod wedi eu helpu i gyflawni hynny. Mae addysgu yn broffesiwn gwych gan eich bod yn gwybod bod pob diwrnod yn mynd i fod yn wahanol, bydd bob amser rhywbeth newydd i'w addysgu neu her newydd i'ch cadw ar flaenau'ch traed.
Yn syml, heb fy ngradd athro dan hyfforddiant ym Mhrifysgol De Cymru, ni fyddwn yn gwneud y gwaith dwi'n ei wneud nawr. Mae'r cwrs yn cynnig cymaint ac mae'n lle gwych i astudio."
Rebecca Prosser, BA (Anrh) Myfyriwr graddedig Addysg Gynradd.
Arolwg Cyrchfannau Graddedigion 2016
Prifysgol De Cymru
Campws Dinas Casnewydd
Usk Way
Casnewydd
NP20 2BP
Sut i gyrraedd Campws Casnewydd
Map ymwelwyr dinas Casnewydd
Call: 03455 76 77 78
Mae Friars Walk yn ddatblygiad manwerthu newydd gwerth £100m a agorodd ym mis Tachwedd 2015. Mae'n union gyferbyn â champws Dinas Casnewydd ac felly mae'n hawdd iawn ei gyrraedd. Beth am gymryd golwg pan fyddwch chi'n dod i'ch cyfweliad?
Yn ogystal â sinema amlblecs wyth sgrin, byddwch yn gallu mwynhau bwyd gyda ffrindiau yn Nandos, Gourmet Burger Kitchen neu Chiquito, a mwynhau ychydig o therapi manwerthu yn unrhyw un o'r 75 o siopau, gan gynnwys brandiau fel New look, River Island, Topshop a Debenhams.
Felly, p'un a ydych yn chwilio am swydd ran-amser yn ystod y tymor neu rywle i gymdeithasu gyda'ch ffrindiau, bydd popeth ar garreg y drws.