Dysgu Seiliedig Ar Waith Gyda'r Heddlu
Mae Prifysgol De Cymru yn cefnogi hyfforddiant swyddogion heddlu mewn nifer o Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr gan sicrhau y bydd swyddogion wedi eu haddysgu at lefel gradd erbyn diwedd eu hyfforddiant, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis.
Yn dibynnu ar eu cymwysterau wrth ymuno â'r heddlu, bydd yn ofynnol i swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu newydd ymrwymo i astudio drwy lwybr gweithio ac astudio cyfunol o fewn eu cwnstabliaeth leol. Mae opsiwn hefyd i astudio gradd cyn ymuno cyn gwneud cais i’r gwasanaeth heddlu.

PA GYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT SYDD EU HANGEN YN YR HEDDLU?
Mae'r Coleg Plismona, sydd â'r diben o ddatblygu safonau'r heddlu, wedi dechrau gweithredu Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona sy'n cynnwys cymwysterau sy’n cael eu hachredu a’u cydnabod yn genedlaethol ar gyfer y gwasanaeth heddlu.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ei thrwyddedu i ddarparu'r cymwysterau hyn yn y gweithle, sy'n cynnwys prentisiaeth gradd a diploma graddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol ar gyfer y sawl sydd eisoes yn Swyddogion Heddlu Gweithredol a'r Dystysgrif Plismona Cymunedol ar gyfer y sawl sy’n gyflogedig fel Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Prentisiaeth Gradd

Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PGCH/PCDA)
Os byddwch yn ymuno â'r heddlu heb gymhwyster lefel gradd, gallwch ddilyn prentisiaeth gradd broffesiynol tair blynedd a elwir yn Brentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PGCH/PCDA)
Mae'r llwybr astudio hwn yn cynnwys dysgu yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill gradd BSc (Anrh) Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Diploma Graddedig

Rhaglen Mynediad Deiliad gradd (RhMDG/DHEP)
Os oes gennych radd eisoes pan fyddwch yn ymuno â'r heddlu, gallwch ymuno a dilyn rhaglen ddwy flynedd yn seiliedig ar waith a elwir yn Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd (RhMDG/DHEP).
Cefnogir y llwybr astudio hwn gan ddysgu y tu allan i’r gwaith. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill Diploma Graddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol
Tystysgrif Addysg Uwch
Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 Ymarfer Plismona Cymunedol
Yng nghyd-destun proffesiynol cyffredinol Gweledigaeth Plismona 2025, mae'r Coleg Plismona, fel corff proffesiynol y gwasanaeth heddlu, wedi datblygu llwybrau mynediad newydd i'r proffesiwn plismona ar gyfer rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH/PCSO), fel rhan o ddatblygiad parhaus Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (FfCAH/PEQF). Mae'r FfCAH yn fframwaith cenedlaethol safonedig sy'n pennu lefelau cymwysterau proffesiynol ar gyfer y gwasanaeth heddlu, yn ôl lefel y rôl neu’r safle cyfrifoldeb mewn sefydliad.
- Rhaglen mynediad Prentisiaeth SCCH Lefel 4 (Cymru a Lloegr), a
- Rhaglen mynediad Ddi-brentisiaeth SCCH Lefel 4 (Cymru a Lloegr)
Pwysig: Er mwyn cofrestru ar y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn gyflogedig fel SCCH gydag un o'n lluoedd partner. Mae manylion prosesau recriwtio a meini prawf cymhwysedd SCCH ar gael ar wefannau ein partner-heddluoedd.
Cyngor Derbyn a Chymhwysedd
I fod yn gymwys i astudio prentisiaeth gradd neu ddiploma graddedig mewn plismona proffesiynol mae angen i chi fod yn swyddog heddlu sy'n gwasanaethu yn un o'n cwnstabliaethau partner. Mae swyddogion heddlu sydd eisoes yn gwasanaethu yn bodloni'r gofynion mynediad academaidd gan iddynt basio'r broses recriwtio a dethol i ymuno â'r heddlu.
CWNSTABLIAETHAU PARTNER
ISGONTRACTWYR
Mae defnyddio isgontractwyr wrth ddarparu prentisiaethau gradd weithiau'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y dysgu a'r profiad yn bodloni gofynion y deilliannau a'r safonau perthnasol. Dim ond pan fyddant mewn sefyllfa well i ddarparu cyfleoedd dysgu penodol neu os oes ganddynt arbenigedd i wella'r modd y cyflwynir y rhaglen y defnyddir isgontractwyr.