Bydd yn anodd i chi weld eich plentyn yn gadael y cartref am y tro cyntaf,
felly dyma ychydig o gyngor i chi ac iddyn nhw.
Eu gadael nhw
Bydd gadael eich plentyn yn y brifysgol yn amser emosiynol. Ein cyngor ni
yw peidio â mynd â’r teulu cyfan, gadael eich plentyn gyda ‘phecyn gwneud
ffrindiau’ (mae cacen bob amser yn boblogaidd!), ffarwelio heb ffwdanu ac mae
ychydig o arian parod fel rhodd yn helpu. Bydd ein llysgenhadon ym Mhrifysgol
De Cymru yn helpu’ch plentyn i symud i mewn a byddan nhw’n gwneud y rhan fwyaf
o’r gwaith cario trwm i chi.

Pacio ar gyfer y
brifysgol
Unwaith mae’r cynigion yn dechrau dod, dechreuwch bacio! Nawr yw’r amser i
ddechrau casglu potiau a sosbannau, cyllyll a ffyrc, dillad gwely a thyweli. Prynwch
bethau yn y sêls ac ewch i siopau elusen. Mae’r rhan fwyaf o siopau’n gwerthu
pecynnau i fyfyrwyr sy’n cynnwys yr holl bethau hanfodol. Bydd angen pethau
arnyn nhw i addurno eu hystafelloedd hefyd. Edrychwch ar ein bwrdd Pinterest i gael eich ysbrydoli.
Cyllido ac arian
Mae myfyrwyr sy’n byw i ffwrdd o’r cartref am y tro cyntaf yn ddrwg-enwog
am wastraffu llawer o arian yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Mae’n werth
eistedd i lawr gyda nhw cyn iddyn nhw fynd a chynllunio cyllideb gyda’ch
gilydd. Bydd rhaid i chi gyfrifo faint o arian bydd ei angen arnyn nhw ar gyfer
llety, bwyd, teithio, llyfrau, yswiriant ac ati a chyfrifo faint fydd ar ôl ar
gyfer cymdeithasu. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pa gymorth ariannol sydd ar
gael o ran eithriadau treth cyngor a chostau teithio is. Gwelwch ein tudalennau arian myfyrwyr am fwy o gyngor am
gyllidebu.
Gweithio neu
beidio?
Mae’n debygol iawn y bydd angen i’ch mab neu’ch merch gael swydd ran-amser
am rywfaint o’u hamser yn y brifysgol neu drwy gydol y cyfnod hwn. Mae
amrywiaeth eang iawn o waith ar gael ym Mhrifysgol De Cymru – fel llysgenhadon
myfyrwyr, yn yr Undeb Myfywyr ac yn yr ardal leol. Mae datblygiad Friar’s Walk
yn agor yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 2015 ac mae hwnnw gyferbyn â’n campws.
Bydd cyfleoedd manwerthu ac arlwyo. Ni
ddylai’ch plentyn weithio mwy na 16 awr yr wythnos gan bod hynny’n gallu amharu
ar ei astudiaethau.
Teimlo’n
hiraethus
Mae teimlo’n hiraethus yn hollol normal. Ceisiwch annog eich plentyn i aros
yn y brifysgol yn hytrach na dod adref i ymweld â chi. Po fwyaf maen nhw’n
cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y brifysgol, lleiaf byddan nhw’n hiraethu.
Os ydyn nhw’n dal yn hiraethus erbyn canol y tymor, beth am ddod i ymweld â nhw
a mynd â nhw am bryd o fwyd a gofyn a oes unrhyw broblemau penodol ganddyn nhw.
Amser i chi’ch
hun
Os nad oes
gennych ragor o blant yn y cartref, efallai byddwch eisiau mwynhau ychydig bach
o dawelwch am sbel! Mae’n amser rhoi’ch traed i fyny, dechrau hobi newydd neu
efallai byddwch yn ystyried gwneud cwrs gyda ni...