Pa mor bell o'r cartref? A fyddan nhw eisiau byw gartref? Neu bellter bach i fwrdd- ond yn ddigon agos i gael dod adref ar y penwythnos? Neu a ydyn nhw eisiau newid llwyr? Mae'n werth ystyried a por bell rydych yn fodlon teithio i fynd â nhw i’r brifysgol â’u hôl ar
ddiwedd y tymor. Mae Glasgow yn bell iawn o Truro!
Dinas neu gampws? Mae rhai prifysgolion yng nghanol
dinasoedd sydd â bywyd nos lliwgar a siopau di-rif tra bod eraill ar
gampysau gwledig lle mae popeth ar yr un safle. Mae Prifysgol De Cymru yn
cyfuno’r gorau o ddau fyd. Mae gennym ni gampysau dinesig bywiog yng
Nghasnewydd a Chaerdydd a lleoliad mwy gweldig ym Mhontypridd (dim ond 25
munud i ffwrdd o Gaerdydd).
Tirwedd – efallai bod eich plentyn yn mwynhau syrffio
neu feicio mynydd. Bydd angen iddyn nhw ddewis prifysgol lle maen nhw’n
cael gwneud eu hoff weithgareddau cymdeithasol. Mae Prifysgol De Cymru yn
agos i rai o draethau gorau’r byd, a Bannau Brycheiniog sy’n cynnig cyfleoedd
beicio, cerdded a dringo. Bydd gormod o ddewis ganddyn nhw!