Mae cwrs ôl-raddedig, boed yn amser llawn neu'n rhan-amser, yn ffordd ddelfrydol o ychwanegu at eich addysg a rhoi cychwyn da yn eich gyrfa. Mae nifer o ffyrdd i ariannu eich astudiaeth ôl-raddedig. Gall hyn fod trwy cyllid myfyrwyr, bwrsariaethau neu gymorth gan grantiau, ymddiriedolaethau ac elusennau (gweler Cyllid Amgen), neu gyfuniad o'r tri.
Dewch o hyd i wybodaeth benodol am ffioedd eich cwrs ar y dudalen cwrs berthnasol neu yma os ydych chi'n dymuno gwneud gradd ymchwil.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chost ffioedd dysgu, yna cysylltwch â'r Uned Refeniw drwy anfon e-bost at revenue@southwales.ac.uk
Mae manylion am gynlluniau talu sydd ar gael ar gael ar dudalennau ein Tîm Refeniw.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer holl raddedigion Prifysgol De Cymru* sy'n cychwyn ar gwrs MA ac MSc a addysgir neu'r cwrs PCET o fis Medi 2021 (sy’n cynnwys myfyrwyr sy'n cychwyn ar eu cwrs ym mis Ionawr / Chwefror 2022).
* Mae hyn yn cynnwys graddedigion Prifysgol De Cymru, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd, Polytechnig Cymru.
Bydd y Fwrsariaeth Ceiswyr Lloches yn cefnogi hyd at ddau fyfyriwr Ôl-raddedig bob blwyddyn academaidd. Bydd Panel y Brifysgol yn asesu pob cais am fwrsariaeth ar yr un pryd ar ôl y dyddiad cau a bydd yn dyfarnu hyd at ddwy fwrsariaeth o'r holl geisiadau hyn. Darganfod mwy
Mae’r Cynllun Noddfa ar gyfer Ffoaduriaid PDC yn gynllun newydd sy'n rhoi cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys trwy gyfrwng hyfforddiant Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.
Myfyrwyr cofrestredig PDC, yn astudio o leiaf 60 credyd ym mlwyddyn academaidd 21/22, gall fod yn gymwys i dderbyn asesiad dyslecsia mewnol am ddim gyda chefnogaeth y Fwrsariaeth Profi Diagnostig. Sylwch fod cronfa'r Fwrsariaeth yn gyfyngedig ac ni warantir cymorth gyda ffioedd asesu.
Gweler yma i gael gwybodaeth am yr ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr yr UE sy'n dechrau yn 21/22.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer holl raddedigion Prifysgol De Cymru* sy'n cychwyn ar gwrs MA ac MSc a addysgir neu'r cwrs PCET o fis Medi 2020 (sy’n cynnwys myfyrwyr sy'n cychwyn ar eu cwrs ym mis Ionawr / Chwefror 2021).
* Mae hyn yn cynnwys graddedigion Prifysgol De Cymru, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd, Polytechnig Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i wneud eu graddau Meistr yng Nghymru.
Nod y cynllun yw cynyddu nifer y graddedigion sy'n aros yng Nghymru neu'n dychwelyd i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, neu bynciau ‘STEMM’.
Bydd arian ar gael hefyd i wneud gradd Meistr yn y Gymraeg ac ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy'n 60 oed neu'n hŷn.
Mae unrhyw gyfleoedd ariannu a gefnogir gan y Brifysgol i'w gweld ar y dudalen ganlynol.
Gall myfyrwyr ymchwil nad ydynt yn derbyn Efrydiaeth fod yn gymwys i wneud cais am y Benthyciadau Ôl-raddedig / Doethuriaeth isod.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ymchwil graddedigion, ewch i'r tudalennau Swyddfa Ymchwil Graddedigion neu cysylltwch â gro@southwales.ac.uk
Ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd eisoes wedi cwblhau cwrs is-raddedig PDC neu ôl-raddedig PDC, dyfernir Bwrsariaethau Lydon Hodges yn flynyddol i unigolion sy'n gallu dangos orau pam eu bod yn teimlo y bydd mynediad i gwrs ymchwil ôl-raddedig o fudd iddynt - yn bersonol neu'n broffesiynol, a sut y byddant yn mynd at eu hastudiaethau. Bydd y Bwrsariaeth yn darparu rhyddhad ariannol pan fydd myfyrwyr newydd yn dechrau astudio, a bydd ymgeiswyr Bwrsariaeth llwyddiannus yn dangos sut mae astudiaethau ymchwil ôl-raddedig yn alluogwr personol neu broffesiynol. Darganfod mwy.
Mae ein Hysgoloriaeth Chwaraeon ar gael i fyfyrwyr sy'n perfformio i safon uchel yn eu dewis chwaraeon, a chynrychioli'r Brifysgol yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Darganfod mwy.
Mae’r Cynllun Noddfa ar gyfer Ffoaduriaid PDC yn gynllun newydd sy'n rhoi cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys trwy gyfrwng hyfforddiant Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.
Myfyrwyr cofrestredig PDC, yn astudio o leiaf 60 credyd ym mlwyddyn academaidd 20/21, gall fod yn gymwys i dderbyn asesiad dyslecsia mewnol am ddim gyda chefnogaeth y Fwrsariaeth Profi Diagnostig. Sylwch fod cronfa'r Fwrsariaeth yn gyfyngedig ac ni warantir cymorth gyda ffioedd asesu.
Gallwch wneud cais am fenthyciadau a grantiau fel cyfraniad tuag at eich cwrs a'ch costau byw os ydych yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2019/20 neu 2020/21.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn ddinesydd yr UE ac mae'r canlynol i gyd yn berthnasol:
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi datganiad ynghylch cymorth ariannol a ffioedd cartref mewn perthynas â myfyrwyr o’r UE o'r flwyddyn academaidd 2021/22.
Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, ac mae'ch prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Byddwch yn ymwybodol na fydd eich ffioedd yn cael eu talu'n uniongyrchol i'r Brifysgol, bydd angen i chi wneud trefniadau i dalu’r ffioedd eich hun. Os ydych yn dymuno talu gan ddefnyddio eich cyllid myfyrwyr, gallwch sefydlu taliadau yn unol â'r dyddiadau y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyrwyr drwy gysylltu â'r adran refeniw ar ôl i chi gofrestru ar y cwrs.
*Gweler y meini prawf cymhwyster llawn a manylion sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Gallwch wneud cais am fenthyciad fel cyfraniad tuag at eich cwrs a'ch costau byw os ydych yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2019/20 neu 2020/21.
Ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau eu cwrs yn 2019/20, mae hyd at £10,906 ar gael i fyfyrwyr sy'n hanu o Loegr (ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf preswylio).
Ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau eu cwrs yn 2020/21, mae hyd at £11,222 ar gael i fyfyrwyr sy'n hanu o Loegr (ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf preswylio).
Ar gael i fyfyrwyr o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
Heb brawf modd (ddim yn ddibynnol ar incwm eich teulu).
Mae cyrsiau meistr a addysgir a chyrsiau ymchwil yn gymwys, gan gynnwys MA, MSc, LLM, MRes, MA drwy Ymchwil, a chyrsiau MSc drwy Ymchwil.
Ar gael ar gyfer rhaglenni meistr amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell.
I fod yn gymwys i gael cyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Lloegr, rhaid i gyrsiau rhan-amser fod naill ai'n rhan-amser, yn para 2 i 4 blynedd academaidd a dim mwy na dwywaith hyd y cwrs amser llawn cyfatebol neu ran-amser am hyd at 3 blyedd, lle nad oes cwrs amser llawn cyfatebol.
Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, ac mae'ch prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Gwneir taliadau mewn tri rhandaliad o 33%, 33% a 34% ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Byddwch yn ymwybodol na fydd eich ffioedd yn cael eu talu'n uniongyrchol i'r Brifysgol, bydd angen i chi wneud trefniadau i dalu’r ffioedd eich hun. Os ydych yn dymuno talu gan ddefnyddio eich cyllid myfyrwyr, gallwch sefydlu taliadau yn unol â'r dyddiadau y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyrwyr drwy gysylltu â'r adran refeniw ar ôl i chi gofrestru ar y cwrs.
* Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwyster llawn a manylion am sut i wneud cais ar y wefan isod.
Benthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig
Mae'r arian sydd ar gael yn fenthyciad i'ch helpu i dalu eich holl ffioedd dysgu neu rai ohonynt hyd at uchafswm o £5,500 ar gyfer cyrsiau amser llawn. Os byddwch yn dewis cymryd benthyciad i dalu'r holl ffioedd neu rai ohonynt, byddwch yn gwneud hynny ar yr un telerau â benthyciad myfyriwr ar gyfer costau byw.
Os byddwch yn tynnu'n ôl o'ch cwrs, efallai na fyddwch yn gymwys i gael benthyciad i helpu gyda chost eich ffioedd. Fodd bynnag, efallai y bydd eich prifysgol yn codi ffioedd arnoch o hyd am yr amser yr ydych wedi bod ar y cwrs.
Benthyciad Costau Byw Ôl-raddedig
Gall myfyrwyr cymwys ôl-raddedig cymwys wneud cais i ni am fenthyciad cost byw hyd at £4,500. I fod yn gymwys ar gyfer y benthyciad cost byw, yn ogystal â bodloni ein hamodau cymhwyster, rhaid i chi:
• bod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs (fel arfer 1 Awst). Os ydych chi'n newid cwrs a'ch bod yn 60 oed neu'n hŷn ar ddyddiad perthnasol eich ail gwrs, ni fydd gennych hawl i gael benthyciad myfyriwr ar gyfer eich ail gwrs.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Asiantaeth Dyfarnu Myfyrwyr yr Alban.
*Ffynhonnell: SAAS
Os ydych i fod i ddechrau ar dystysgrif ôl-raddedig, diploma ôl-raddedig, Meistr a addysgir neu Meistr ymchwil yn ystod Blwyddyn Academaidd 2018/19, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig o hyd at £5,500 ar gyfer y cwrs, i helpu gyda chost ffioedd eich cwrs. Ni all y Benthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig fod yn fwy na'r ffi wirioneddol a godir gan y brifysgol neu'r coleg, nid yw wedi'i seilio ar incwm yr aelwyd, a rhaid i chi ei ad-dalu. Fe'i telir yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.
Defnyddiwch wefan Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon i gael diweddariadau pellach, gan gynnwys sut i wneud cais.
Gallwch wneud cais am fenthyciad i helpu gyda ffioedd eich cwrs a'ch costau byw wrth i chi astudio os ydych yn dechrau cwrs doethuriaeth (PhD) .
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn ddinesydd yr UE ac mae'r canlynol i gyd yn berthnasol:
rydych chi'n byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs;
rydych chi fel arfer wedi byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu'r Swistir am y tair blynedd diwethaf;
byddwch yn astudio mewn prifysgol yng Nghymru.
Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, ac mae'ch prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Gwneir taliadau mewn tri rhandaliad o 33%, 33% a 34% ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Mae manylion llawn ar gymhwyster a sut i wneud cais i'w gweld ar wefannau'r awdurdodau perthnasol isod
Nid yw Benthyciadau Doethurol ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban.
Bydd cyllid gradd Meistr ôl-raddedig ar gael os nad oes gennych radd Meistr neu gymhwyster uwch arall a enillwyd naill ai yn y DU neu dramor. Os oes gennych gymhwyster lefel is ac eisiau ‘ychwanegiad’ i radd Meistr, ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid gradd Meistr ôl-raddedig, gan mai dim ond cyllid ôl-raddedig ar gyfer cwrs ôl-raddedig llawn y gallwch ei gael. Ni fyddwch yn gallu cael Cyllid gradd Meistr Ôl-raddedig os ydych wedi cael Benthyciad Ôl-raddedig o'r blaen, oni bai eich bod wedi gadael eich cwrs oherwydd rhesymau personol cryf, fel:
• salwch
• profedigaeth
• neu reswm personol difrifol arall.
Byddai angen i chi anfon tystiolaeth i cyllid myfyrwyr i gefnogi hyn a dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio rhesymau personol cymhellol.
Ffynhonnell: Cyllid Myfyrwyr Cymru
Mae manylion ynghylch sut y bydd angen i chi ad-dalu'ch benthyciad myfyrwyr ôl-raddedig, gan gynnwys sut y bydd hyn yn gweithio os oes gennych fenthyciad myfyriwr israddedig presennol, ar gael ar wefan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fyfyrwyr o ofal a'r rhai sy'n gadael gofal sydd am fynd ymlaen i addysg uwch.
Gallwn ni ym Mhrifysgol De Cymru eich helpu ar bob cam o'ch profiad prifysgol, gyda chymorth a chyngor arbenigol cyn, yn ystod ac ar ôl i chi fod yn fyfyriwr gyda ni - gan adael i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau a mwynhau bywyd prifysgol.
Sut i gysylltu â'r Tîm Gadael Gofal
I ofyn cwestiynau pellach a dechrau'r gefnogaeth sydd ar gael i chi fel Ymadawr Gofal, cysylltwch â'r Cydlynydd Gadael Gofal.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n gymwys fel Ymadawr Gofal, cysylltwch â ni a gallwn eich cynghori ymhellach. Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol neu'n gweithio ar ran sefydliad fel Barnardos mae croeso i chi gysylltu hefyd.
Efallai y bydd gan rai myfyrwyr hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth neu gredydau treth wrth astudio. Gweler ein tudalen Myfyrwyr a Budd-daliadau am ragor o wybodaeth.
Gall darparwyr benthyciadau preifat, fel Future Finance, ddarparu benthyciadau i gynorthwyo gyda ffioedd dysgu a chostau byw, gyda chyfraddau llog amrywiol yn dibynnu ar eich hanes credyd. Dyma rai o'r ffeithiau allweddol:
• Gall benthyciadau Cyllid y Dyfodol fod ar gael* i fyfyrwyr PDC sydd â chyfeiriad yn y DU wrth astudio (gan dybio eu bod yn bodloni'r gwiriadau credyd priodol ac yn 18 oed neu'n hŷn)
• Gall benthyciadau gynnwys costau byw yn ogystal â ffioedd dysgu
* Mae manylion pellach am ofynion cymhwysedd, cyfraddau llog a thelerau allweddol eraill y benthyciad ar gael trwy ymweld â gwefan Future Finance.
Mae'r Brifysgol yn awyddus i gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n gofalu, gan gynnwys darparu Bwrsariaeth o'i Chronfa Cymorth i Fyfyrwyr i helpu'r rhai sydd angen cymorth ariannol, gan y cydnabyddir bod gofalu yn aml yn arwain at oblygiadau ariannol (megis llai o argaeledd ar gyfer gwaith taledig a costau teithio cynyddol). Darganfod mwy.