Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi y bydd bwrsariaethau Llywodraeth Cymru (bwrsari STEEM, bwrsari cyfrwng Cymraeg a Bwrsariaeth 60 +) yn parhau yn 2021-22 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig cymwys sy'n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2021-22.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynlluniau 2020-21 yma
Pwy sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth ôl-raddedig STEMM hon?
I fod yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth ôl-raddedig hon mae angen i chi fodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Bod yn fyfyriwr sy'n hanu o Gymru .
- Yn bodloni'r meiniprawf cymhwysedd ar gyfer cyllid ar gyfer Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig gan Cyllid Myfyrwyr Cymru* (*Bydd myfyrwyr dros 60 oed yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth ôl-raddedig hon)
- Wedi cofrestru ar gwrs gradd Meistr ôl-raddedig STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth) cymwys yn astudio ac yn talu am 180 credyd ym Mhrifysgol De Cymru, gan ddechrau ym mis Medi 2021 neu Chwefror 2022.
- .
- Yn parhau i fod wedi ymrestru trwy gydol y cwrs.
Pa gyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth ôl-raddedig STEMM hon?
Mae CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) wedi penderfynu bod Bwrsariaeth STEMM yn berthnasol i gyrsiau Meistr pwnc STEMM amser llawn neu ran-amser yn unig. Yn ôl yr angen, mae'r Brifysgol wedi defnyddio categorïau pwnc academaidd CCAUC (ASCs 1, 2, 3, 4 a 6) i bennu cymhwysedd cwrs: 1 Meddygaeth a Deintyddiaeth; 2 bwnc a phroffesiwn sy'n gysylltiedig â meddygaeth; 3 Gwyddoniaeth; 4 Peirianneg a Thechnoleg; a 6 Gwyddorau Mathemategol, TG a Chyfrifiadura.
Mae'r rhai sy'n ymgymryd â chyrsiau PGCE, Diploma Ôl-raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig neu Dysgu o Bell yn cael eu hariannu gan y GIG yn anghymwys ar gyfer y dyfarniad hwn.
Gwybodaeth Bwysig
Ni fydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â llai na 180 o gredydau ar radd Meistr Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth hon gan na fyddant yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr y Llywodraeth ar gyfer gradd Meistr Ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi'u heithrio o un modiwl neu fwy oherwydd Cyflawniad Blaenorol Achrededig (APA) neu Ddysgu Blaenorol Uwch (APL).
Faint yw'r fwrsariaeth ôl-raddedig STEMM?
Mae’r fwrsariaeth ôl-raddedig yn £2,000 ar gyfer cwrs Gradd Meistr llawn.
Sut mae gwneud cais am y fwrsariaeth ôl-raddedig STEMM?
Os ydych yn derbyn Cyllid Myfyrwyr Gradd Meistr Ôl-raddedig Llywodraeth Cymru nid oes proses ymgeisio ar gyfer y fwrsariaeth ôl-raddedig STEMM, bydd y Brifysgol yn asesu eich cymhwysedd yn awtomatig. Os dewiswch beidio â chymryd Cyllid Myfyrwyr Ôl-raddedig Llywodraeth Cymru ond eich bod yn credu eich bod yn gymwys ar ei gyfer, bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Cyngor ar Arian i Fyfyrwyr
mailto:[email protected]
i anfon ffurflen atoch fel y gellir asesu eich cymhwysedd ar gyfer y Fwrsariaeth. Bydd y ffurflen hon ar gael o fis Medi 2021.Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf bwrsariaeth llawn, ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin.
wy sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth?
I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth ôl-raddedig mae angen i chi gwrdd â PHOB UN o'r canlynol:
- Yn fyfyriwr sy'n hanu o Gymru
- Yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am gyllid ar gyfer Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig gan Cyllid Myfyrwyr Cymru* (* Bydd myfyrwyr dros 60 oed yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth ôl-raddedig hon)
- Wedi cofrestru ar gwrs gradd Meistr ôl-raddedig STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth) cymwys yn astudio ac yn talu am 180 credyd ym Mhrifysgol De Cymru, gan ddechrau ym mis Medi 2021 neu Chwefror 2022.
- .
- Yn parhau i fod yn gofrestredig trwy gydol y cwrs.
Gwybodaeth Bwysig
Ni fydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â llai na 180 o gredydau ar radd Meistr Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth hon gan na fyddant yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr y Llywodraeth ar gyfer gradd Meistr Ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi'u heithrio o un modiwl neu fwy oherwydd Cyflawniad Blaenorol Achrededig (APA) neu Ddysgu Blaenorol Uwch (APL).
Pa gyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth?
Mae pob un o gyrsiau Meistr Ôl-raddedig a addysgir yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth – er bod rhaid cwblhau o leiaf 40 credyd yn Gymraeg. Gallwch astudio modiwl(au) cyfrwng Cymraeg neu gyflwyno’ch traethawd hir lefel Meistr yn Gymraeg i fod yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth hon. Mae’r Brifysgol yn cynnig y cyrsiau canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:
- MSc Cysylltiadau Cyhoeddus
- MSc Marchnata
- MSc Marchnata Digidol Strategol
- MBA (Gweinyddu Busnes)
- MSc Rheolaeth
- MSc Rheoli Peirianneg
- MSc Busnes a Menter Ryngwladol
- MSc Adeiladu a Rheoli Prosiectau (60 credyd ar gael yn Gymraeg)
Faint yw gwerth y Fwrsariaeth?
£1,000 yw gwerth y Fwrsariaeth.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf bwrsariaeth llawn, ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth?
I fod yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth Ôl-raddedig mae angen i chi gwrdd â PHOB UN o'r canlynol:
- Yn fyfyriwr sy'n hanu o Gymru .
- Yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am gyllid ar gyfer Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig gan Cyllid Myfyrwyr Cymru* (* Bydd myfyrwyr dros 60 oed yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth ôl-raddedig hon).
- Yn parhau i fod yn gofrestredig trwy gydol y cwrs.
- Yn 60 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Academaidd y cwrs. Diffinnir y Flwyddyn Academaidd fel y ganlyn:
1 Medi 2020 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021 a chyn Ionawr 2022.
1 Ionawr 2021 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2022 a chyn 1 Ebrill 2022.
- Wedi cofrestru ar gwrs Meistr ôl-raddedig a addysgir cymwys ym Mhrifysgol De Cymru, amser llawn neu ran-amser, gan ddechrau ym Medi 2021 neu Chwefror 2022
Gwybodaeth Bwysig
Ni fydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â llai na 180 o gredydau ar radd Meistr Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth hon gan na fyddant yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr y Llywodraeth ar gyfer gradd Meistr Ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi'u heithrio o un modiwl neu fwy oherwydd Cyflawniad Blaenorol Achrededig (APA) neu Ddysgu Blaenorol Uwch (APL).
Pa gyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth?
Mae pob un o gyrsiau Meistr Ôl-raddedig a addysgir amser llawn neu ran-amser yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth. Os ydych yn cofrestru ar Dystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig, ni fyddwch yn gymwys i gael y Fwrsariaeth.
Faint yw gwerth y Fwrsariaeth ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed?
£4,000 yw gwerth y Fwrsariaeth.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf bwrsariaeth llawn, ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin.