Mae'r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth ar gyfer 202/21 i'w weld isod.
Bydd angen i chi benderfynu a ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eich gradd nyrsio neu fydwreigiaeth:
• Os ‘ydw’ = gallwch ddewis rhwng cyllid GIG neu gyllid myfyrwyr safonol.
• Os ‘nac ydw’ = gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr safonol yn ôl eich domisil.
Er mwyn eich helpu i benderfynu, mae GIG Cymru wedi darparu'r wybodaeth ganlynol am gynllun bwrsariaeth y GIG.
Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn darllen y wybodaeth ar y wefan hon yn ofalus gan ei bod yn manylu ar sut y bydd cynllun y GIG yn gweithio a goblygiadau dewis y cynllun hwn.
Ar ôl i chi gael cynnig lle wedi'i ariannu gan y GIG ar gyfer 2020/21, gallwch wneud cais ar-lein am eich arian gan GIG Cymru. Os dewiswch yr arian safonol gallwch wneud cais ar-lein nawr ar wefan eich darparwr cyllid.
Dylech ddarparu'r rhif cyfeirnod unigryw a gynhyrchir gan System Cofrestru Addysg Iechyd Cymru yn eich cais. Mae hyn fel bod y darparwr cyllid yn gwybod nad ydych wedi dewis cyllid GIG ac yna gallwch asesu eich cais am gyllid safonol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cyllid sydd ar gael, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.