Mae'r Bwrsariaeth Gofalwyr yn werth £1,000 (myfyrwyr amser llawn) a £500 (myfyrwyr cwrs rhan-amser / 6 mis) y flwyddyn i fyfyrwyr cymwys cartref PDC sy'n Ofalwyr di-dâl.
Diffiniad Ymddiriedolaeth y Gofalwyr o ofalwr yw “unrhyw un sy'n gofalu, heb dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed yn methu ymdopi heb eu cefnogaeth.” Sylwer y byddai'r dyletswyddau hyn yn ychwanegiad at y cyfrifoldebau gofalu arferol y byddai rhiant yn eu cael ar gyfer plentyn dibynnol.
E-bostir y cyswllt i wneud cais i fyfyrwyr a dderbyniodd y Fwrsariaeth mewn blynyddoedd academaidd blaenorol a myfyrwyr sydd wedi datgelu eu bod yn Ofalwr di-dâl ar eu ffurflen gofrestru'r Brifysgol i wneud cais am Fwrsariaeth Gofalwyr ar ôl cofrestru.
Bydd yn ofynnol iddynt ddarparu cadarnhad gan berson, sy'n ymwneud â'r teulu ar sail broffesiynol (e.e., Gweithiwr Cymdeithasol, Meddyg Teulu ac ati) ei fod yn ofalwr a datganiadau banc cyfredol.
Bydd angen i fyfyrwyr a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr yn flaenorol ddarparu prawf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau bod hyn bellach wedi dod i ben.
Ni fyddai gofalwyr sy'n derbyn cyflog yn gyfnewid am eu dyletswyddau gofalu neu sy'n derbyn Lwfans Gofalwr yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Fwrsariaeth Gofalwyr neu os hoffech wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr neu anfonwch e-bost at y tîm cronfacymorth myfyrwyr.
Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth gyda chwblhau eich cais cyllid myfyrwyr a gwirio eich bod yn derbyn yr hawl gywir.
Os oes angen cyngor arnoch ar faterion sy'n cael effaith ar eich astudiaethau, cysylltwch â'ch Ardal Gynghori.