Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sydd wedi ymddieithrio yn ystod eu hastudiaethau.

Y cymorth y gallwn ei gynnig yw:

• Bwrsariaeth Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio ar gyfer myfyrwyr sydd o dan 25 oed ac sy’n cael eu hystyried fel myfyrwyr ‘cartref’ ac a asesir gan eu corff cyllido fel rhai sydd wedi ymddieithrio - (£1000* y flwyddyn ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr amser llawn, £500* ar gyfer myfyrwyr rhan amser). 

• Gwobr Graddio i gefnogi costau cysylltiedig fel llogi gŵn/pecyn ffotograff (£100* ar hyn o bryd)

• Cymorth i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr fel Myfyriwr sydd wedi Ymddieithrio 

• Cyngor Ariannol gan gynnwys cyllidebu a rheoli arian 

• Cymorth i wneud cais i Gronfa Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol os ydych chi’n profi caledi ariannol*

• Cymorth i gael mynediad i lety 365 diwrnod i fyfyrwyr amser llawn (rhaid i'r myfyriwr dalu'r taliad a bodloni’r telerau ac amodau).

*Sylwch y gall dyraniadau cyllid newid, gwiriwch am y wybodaeth ddiweddaraf.

Sut i gael gafael ar y cymorth hwn

Cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost a byddwn yn trefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Arian a Chymorth i drafod y cymorth sydd ar gael a sut i gael gafael arno.

Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol i gael cymorth pellach wrth wneud cais i'r Brifysgol.