Mae bwrsariaeth teithio FCES ar gyfer unrhyw fyfyriwr Prifysgol De Cymru sy'n astudio gradd rhyngosod israddedig perthnasol yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES).
Mae'r fwrsariaeth untro, nad yw'n dibynnu ar brawf modd, yn werth £500 ac yn cael ei rhoi i bob myfyriwr sy'n dechrau eu blwyddyn rhyngosod fel rhan o'u cwrs gradd FCES. Bwriad y fwrsariaeth yw darparu cymorth ariannol tuag at eich costau teithio i'ch lleoliad rhyngosod ac oddi yno.
A YDW I'N GYMWYS?
I fod yn gymwys mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Byddwch yn astudio ar hyn o bryd ar radd Rhyngosod Israddedig amser llawn cymwys yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth.
- Byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn rhyngosod yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24
Cyrsiau Cymwys:
BEng (Anrh) Peirianneg AwyrennolBEng (Anrh) Peirianneg Awyrofod
BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol
BEng (Anrh) Peirianneg Sifil
BSc (Anrh) Rheoli Prosiectau Adeiladu
BSc (Anrh) Mesur Meintiau a Rheolaeth Fasnachol
BSc (Anrh) Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
BSc (Anrh) Cyfrifiadureg
BSc (Anrh) Fforensig Cyfrifiadurol
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol
BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig
BSc (Anrh) Cyfrifiadura
BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
BSc (Anrh) Bioleg
BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol
BSc (Anrh) Ymchwiliad Fforensig
BSc (Anrh) Gwyddor Fforensig
BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol
BSc (Anrh) Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol
BSc (Anrh) Astudiaethau Natur
BSc (Anrh) Astudiaethau Natur a'r Cyfryngau
BSc (Anrh) Gwyddor Fferyllol
SUT MAE'R FWRSARIAETH YN CAEL EI DALU?
Ar ôl cofrestru ar gyfer eich blwyddyn rhyngosod, byddwch yn derbyn £500 wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc drwy BACS, yn ystod eich tymor cyntaf (erbyn diwedd mis Hydref 2023).
SUT MAE GWNEUD CAIS?
Ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a amlinellwyd uchod, nid oes angen unrhyw gamau pellach.
Ar ôl cofrestru ar eich blwyddyn rhyngosod, byddwch yn derbyn e-bost gan y Brifysgol yn ystod mis Medi 2023 yn cadarnhau y bydd y fwrsariaeth teithio yn cael ei dalu a manylion ychwanegol.
Cysylltwch â Kerri Carben neu Beth Jones os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fwrsariaeth.

*Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.