
Cyrsiau gofal iechyd cysylltiedig
Rhestrir cyrsiau gofal iechyd cymwys ym Mhrifysgol De Cymru isod. Mae'r cyrsiau gofal iechyd hyn wedi'u comisiynu gan Addysg Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi cynnydd unigolion i gofrestru yn eu dewis broffesiwn gofal iechyd a chefnogi anghenion gwasanaethau'r GIG a chleifion yng Nghymru yn y dyfodol.
- BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Plant) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Bydwreigiaeth - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Ymarfer Gofal Llawdriniaethol (YGLl) - Rhan-Amser
- BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol - Rhan- Amser
- BSc (Anrh) Ffisiotherapi - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Oedolion) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Plentyn) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Anableddau Dysgu) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Iechyd Meddwl) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
CWESTIYNAU AM ARIAN? DYMA EIN CYSYLLTIADAU CYFLYM
Dewisiadau Cyllid
Mae'n bosibl bod dau opsiwn ariannu gwahanol ar gyfer graddau Gofal Iechyd a gynigir gan PDC.
Bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar eich dewis o gwrs.
Os oes gennych yr opsiwn o gyllid safonol a’r GIG, bydd angen i chi benderfynu pa lwybr ariannu sydd orau i chi gan mai dim ond un y gallwch ei gael ac fel arfer ni allwch newid rhan o'r ffordd drwy eich astudiaethau. Byrd angen i chi benderfynu a ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eich gradd gofal iechyd. Os ‘ydw’ gallwch ddewis rhwng cyllid GIG neu gyllid myfyrwyr safonol. Os ‘nac ydw’ gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr safonol yn ôl eich domisil.
Er mwyn eich helpu i benderfynu, mae GIG Cymru wedi darparu'r wybodaeth ganlynol am gynllun bwrsariaeth y GIG. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn darllen y wybodaeth ar y wefan hon yn ofalus gan ei bod yn manylu ar sut y bydd cynllun y GIG yn gweithio a goblygiadau dewis y cynllun hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyllid sydd ar gael i chi, neu os ydych yn ansicr pa un sydd orau, gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr am arweiniad pellach.

Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr
Mae angen i bob myfyriwrcofrestrwch eu hopsiwn ariannu yn Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr

