Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn gymwys i hawlio budd-daliadau, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar brawf modd. Fodd bynnag, efallai y bydd gan rai myfyrwyr hawl i wneud cais am fudd-daliadau'r wladwriaeth neu gredydau treth, yn dibynnu ar eu hincwm a'u hamgylchiadau. Ystyrir rhywfaint o gyllid myfyrwyr wrth cael eich asesu ar gyfer budd-daliadau.
Yn gyffredinol, efallai y gallwch hawlio os oes gennych:
• Cyfrifoldeb dros blant
• Yn anabl ac yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl, neu Daliad Annibyniaeth Personol (fel arfer adolygir hyn os ydych chi'n cofrestru ar gwrs amser llawn)
• Rydych chi'n gadael eich cwrs dros dro oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu.
Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gallu cael help gyda thaliadau presgripsiwn, deintyddol ac optegwyr. Mae'r gefnogaeth yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Gweler y wefan GIG berthnasol isod am ragor o wybodaeth:
Gall pob myfyriwr amser llawn wneud cais am Ffurflen Eithrio y Dreth Gyngor.
Os hoffech wirio a ydych chi'n gymwys i gael budd-daliadau, dylech ofyn am gyngor pellach gan:
Sut i wneud cais am fudd-daliadau a ble i gael rhagor o wybodaeth
Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys ac yn dymuno gwneud cais am fudd-daliadau, dylech gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl fudd-daliadau a chymhwysedd ar gael ar wefan y Llywodraeth.
Mae gwybodaeth am fudd-daliadau llesiant ac iechyd ar gyfer Myfyrwyr yr UE a Myfyrwyr Rhyngwladol ar gael ar wefan UKCISA.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith pan fyddwch yn dod yn fyfyriwr llawn amser i sicrhau nad ydych yn cael eich gordalu, mae cyngor a gwybodaeth bellach ar gael yma.