Cymerwch eich sedd wrth y bwrdd busnes

Pam graddio gyda throed yn y drws pan allwch chi gael sedd wrth y bwrdd? Rydym yn eich amgylchynu â phrofiad byd go iawn, gan fireinio eich sgiliau entrepreneuraidd trwy brosiectau byw a dysgu seiliedig ar waith sy'n sicrhau eich bod yn graddio gyda CV sy'n siarad drosto'i hun.



Pam astudio Busnes ym Mhrifysgol De Cymru?


Y stori tu fewn

O bartneriaethau proffesiynol a phrosiectau ymarferol i staff a siaradwyr sydd wedi'u trwytho mewn gwybodaeth am y diwydiant, y ffordd orau o ddysgu yw trwy brofiad. Yn ogystal â chalendr llawn dop o gyfleoedd, fe wnaethom greu Clinig Busnes De Cymru, gan roi’r cyfle i chi herio’ch hun mewn arena fusnes go iawn, gyda chleientiaid go iawn a chyngor ar unwaith gan arweinwyr diwydiant. Byddwch hefyd yn dysgu mewn amgylchedd cefnogol, lle cewch eich annog i ddod y fersiwn gorau o'ch hun.


Ewch ymhellach, yn gyflymach

Yn ogystal â rhwydwaith busnes adeiledig, mae eich gradd wedi'i chymeradwyo gan y diwydiant, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant proffesiynol a hyd yn oed y potensial i roi cymwysterau pellach ar lwybr carlam gyda'r cyrff sy'n achredu rhai o'n cyrsiau.


Dim ond y dechrau yw busnes

P’un a ydych chi’n awyddus i ddod yn arweinydd tîm, gweld eich ysbryd entrepreneuraidd yn dod â syniadau i’r farchnad, bod yn fos arnoch chi’ch hun neu’r ystafell fwrdd a thu hwnt, mae ein myfyrwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n eu trawsnewid yn raddedigion sydd â mantais gystadleuol.

This Is Business



Prosiectau byd go iawn

Real World Projects

Galluogi myfyrwyr i feddu ar y sgiliau personol, yr ymwybyddiaeth a’r ddisgyblaeth sy’n hanfodol yn y gweithle.

Mae Clinig Busnes De Cymru yn gynllun addysg lle mae grŵp o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn ‘cwmni ymgynghori’ i roi cyngor i’n cleientiaid.

Cyrsiau Achrededig

Business Accreditations

Mae llawer o'n cyrsiau busnes wedi'u hachredu neu eu cymeradwyo gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys sefydliadau fel y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).

Interniaethau

Internships

Mae gennym bartneriaethau gyda dros 100 o gyflogwyr sy’n cynnig addysgu wedi’i fewnosod ar sail cyflogaeth, gan gynnwys interniaeth 10 wythnos i bob myfyriwr.


Cyrsiau Busnes a Rheolaeth

Graddau Israddedig

BA (Anrh) Busnes a Rheoli


Mae'r radd hon wedi'i hanelu at ymgeiswyr sydd â dyheadau i ddod yn rheolwyr ac arweinwyr busnes yfory.

Gradd sylfaen hefyd ar gael

Gradd Top Up hefyd ar gael

BSc (Anrh) Busnes a Rheolaeth Ryngwladol


Datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae galw mawr amdanynt yn rhyngwladol mewn meysydd allweddol megis cydweithredu trawswladol a gwaith tîm rhithwir.

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol


Wedi'ch cymeradwyo gan CIPD, byddwch yn dysgu'r sgiliau i gwrdd â gofynion presennol a dyfodol proffesiwn AD. 

Gradd sylfaen hefyd ar gael

Gradd Top Up hefyd ar gael

BSc (Anrh) Rheoli Marchnata


Mae rheolwyr marchnata yn arwain busnes yn ei ymdrechion i ddeall, creu a chadw cwsmeriaid.

Gradd sylfaen hefyd ar gael

Gradd Top Up hefyd ar gael

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch


Dyma’r unig radd rheoli gwesty a lletygarwch yn y DU sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â gwesty pum seren, The Celtic Manor Resort.

Graddau Ôl-raddedig

MEISTR MEWN BUSNES

Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA)

Yn ystod yr MBA byddwch yn datblygu sgiliau arwain allweddol megis creadigrwydd, arloesedd, cydweithio a datrys problemau ac yn cael eich cyflwyno i theori busnes arloesol mewn cyd-destun ymarferol.

Gradd fyd-eang ar gael hefyd

DOETHR MEWN BUSNES

Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA)

Ar gyfer uwch reolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd am ddatblygu sgiliau ymchwil lefel uwch y gellir eu defnyddio i wneud penderfyniadau strategol gwybodus o fewn eu sefydliadau

CAFFAEL A CHYFLENWI

MSc Rheoli

Bydd yr MSc Rheolaeth yn datblygu eich gwybodaeth eang am reolaeth gyfoes trwy archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol.


MSc Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ceisio gwella'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol yn yr amgylcheddau cymhleth, deinamig a wynebir gan sefydliadau ar draws pob sector heddiw.


MSc Rheoli Adnoddau Dynol

Mae'r meistr Rheoli Adnoddau Dynol hwn wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf sydd eu hangen arnoch i reoli pobl yn effeithiol yn y gweithle.

STRATEGAETH A THRAWSNEWID

MSc Rheoli Prosiect

Y cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gymeradwyo'n swyddogol gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM).


MSc Marchnata Digidol a Strategol

Athroniaeth arweiniol MSc Marchnata Digidol Strategol yw mynd ati i chwilio am ffyrdd newydd o ‘wneud busnes’ trwy fodelu busnes ystwyth ac mae wedi’i hategu gan feysydd astudio thematig.


MSc Arwain Trawsnewid Digidol

Bydd y cwrs yn gwella eich ymwybyddiaeth o ddigideiddio, yn eich galluogi i ddeall rheoli newid, yn eich dysgu sut i greu ac ail-ddychmygu galluoedd newydd gan ddefnyddio technoleg a'ch trawsnewid yn arweinydd gweledigaethol.


MSc Rheoli Caffael Strategol

Mae’r MSc Rheoli Caffael Strategol wedi’i achredu gan nifer o gyrff proffesiynol, sy’n golygu y gallwch fod yn siŵr eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant.

RHEOLI DIWYDIANT PENODOL

MSc Arweinyddiaeth mewn Gofal Iechyd

Bydd y cymhwyster Meistr hwn yn datblygu gwybodaeth am ddulliau a thechnegau ymchwil yn ogystal â'r strategaethau personol a damcaniaethol sydd eu hangen i sicrhau newid.


Diploma Ôl-raddedig Arweinyddiaeth mewn Gofal Iechyd

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio, bydd y cwrs arweinyddiaeth ar-lein hwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd.


MSc Rheoli Peirianneg

Mae'r MSc Rheolaeth Peirianneg yn cynnig archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol.

LOGISTEG A CHADWYNI CYFLENWAD

MSc Logisteg Ryngwladol a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Gradd meistr aml-achrededig, yn darparu sgiliau arbenigol i reoli ac addasu cadwyni cyflenwi yn hyderus.


Diwrnodau Agored i ddod

open day long
17 June Business Open Day Welsh

Diwrnod Agored Campws Israddedig

Darganfyddwch ystod o gyrsiau achrededig proffesiynol PDC, y mae llawer ohonynt wedi'u cynllunio mewn partneriaeth â diwydiant.


Sbotolau Myfyrwyr



Y Cam Nesaf