survey-1

Mae gan gyrsiau Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol PDC enw da am ragoriaeth o fewn diwydiant

survey-1

Mae Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig ar gyfer boddhad myfyrwyr - Canllaw Prifysgol y Guardian 2023

teaching icon.png

Wedi'i addysgu gan ffotograffwyr sy'n arwain y byd am dros 100 mlynedd

accredited icon.jpg

Mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Samsung UK, The New York Times a National Geographic


Graddau Ffotograffiaeth

Cipio Yfory

Ydych chi'n gweld bywyd yn wahanol i bobl eraill? Allwch chi ddal eiliadau ac adrodd straeon mewn un ddelwedd? Os felly, gallech ymuno â rhengoedd ein graddedigion sy'n gweithio fel ffotograffwyr proffesiynol a ffotonewyddiadurwyr ledled y byd.

Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Rydym wedi dysgu Ffotograffiaeth ers dros 100 mlynedd, ac mae ein cyrsiau Ffotograffiaeth / Ffotograffiaeth Ddogfennol yn cael eu hystyried yn eang fel rhai sy’n arwain y byd.

Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.

Mae Canolfan Ewropeaidd Ymchwil Dogfennol PDC yn darparu ffocws yng Nghymru ar gyfer ymchwil o ansawdd uchel mewn ffotograffiaeth a ffilm. 

Dilynwch ni ar Instagram: uswphotography | docphotusw

Amber On Rocks By Laurie Broughton

Credyd llun: Laurie Broughton, Myfyriwr BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol

Cyfleusterau Gwych

Photography facilities

Mae gennym ddwy stiwdio ffotograffiaeth fawr a chymorth technegol arbenigol ar y safle gydag arbenigedd mewn goleuo a gosod, felly bydd gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol. Mae gennym hefyd ddau labordy digidol - un i sganio a phrosesu delweddau a'r llall i'w hargraffu.

Dysgir gan Arbenigwyr

taught by experts

Cewch eich addysgu gan ffotograffwyr, awduron a churaduron sy’n arwain y byd drwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai technegol a fydd yn eich annog i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am eich ymarfer. 

Cyfleoedd Unigryw

unique opportunities

O gynlluniau cyfnewid astudio, teithio dramor neu weithio gyda diwydiant. Mae myfyrwyr Ffotograffiaeth a chyn-fyfyrwyr wedi gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys Wyatt-Clarke+Jones, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Samsung UK. Mae myfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol a chyn-fyfyrwyr wedi gweithio gydag asiantaethau newyddion mawreddog, gan gynnwys The New York Times, National Geographic a Time Magazine.


Cyrsiau Ffotograffiaeth

Dod o hyd i Gwrs


GWAITH MYFYRWYR

Rhoi'r Sbotolau ar ein Myfyrwyr

Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.

Mae’r ŵyl bwrpasol hon yn gartref i waith prosiect, blogiau, fideos, postiadau cymdeithasol a llawer mwy gan ein myfyrwyr Ffotograffiaeth.

Mae myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith i'r llu ac i ymfalchïo mewn gwneud hynny.

Edrychwch ar yr hyn y mae ein myfyrwyr wedi gweithio arno dros y flwyddyn ddiwethaf trwy edrych ar dudalen gwefan Ffotograffiaeth Gradfest 2022.

Elliw Higham Feast Project

Credyd llun: Elliw Higham, Myfyriwr BA (Anrh) Ffotograffiaeth


Pori Ein Cyhoeddiadau Diweddaraf

Cyhoeddiadau ein Myfyrwyr

Pwyswch 'Sgrin Lawn' i gael y canlyniadau gwylio gorau


Astudio yng Nghalon Caerdydd

Darganfod y 'Diff

Mae Caerdydd yn brifddinas fodern a fydd yn eich synnu. 

Dyma’r ddinas fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae wedi bod yn amlddiwylliannol a chosmopolitaidd o’r cychwyn cyntaf. Yma, fe welwch ansawdd bywyd anhygoel, mwy o fannau gwyrdd y person nag unrhyw ddinas yn y DU, a phobl wych. 

Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy’r DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod. O siopa a chwaraeon byw i gerddoriaeth, y celfyddydau a hanes, mae rhywbeth at ddant pawb a chwmni gwych. 

Mae Caerdydd yn ddinas myfyrwyr boblogaidd sy'n gwybod sut i fwynhau ei hun. Ble bynnag y byddwch chi'n troi, fe welwch chi rywle i fwyta, yfed neu ddawnsio'r noson i ffwrdd. 


Diwrnodau Agored

Profi PDC

Ymunwch â ni mewn diwrnod agored neu ddigwyddiad byw a darganfyddwch y cyfleoedd sy'n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru. 

Byddwch yn cael y cyfle i grwydro ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Bontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr presennol, dysgu am fywyd ym Mhrifysgol De Cymru ac arian myfyrwyr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n ymwneud â'ch cwrs. 

I'r rhai na allant fynychu digwyddiad ar y campws, rydym yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac ar-alw. Mae digonedd o ffyrdd i ddarganfod beth yw pwrpas PDC. 

Explore USW Open Days


Gwneud Cais

Apply to USW

Barod i wneud cais? Ni allwn aros i'ch croesawu i #TeuluPDC. Gallwch wneud cais trwy UCAS neu PDC.                                                                   

Siarad

Chat with us

Siarad gyda'n myfyrwyr, darlithwyr neu staff. Rydym yma i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.                                                          

Bywyd PDC

student life

Gwnewch ffrindiau am oes, rhowch gynnig ar lawer o bethau newydd a dewch yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen.  

Llety

accommodation

Mae ble rydych chi'n byw yr un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei astudio. Dewch i ni ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref.