Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06


Astudiwch ar gampws dinas, yng nghanol un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU

Llogi a chael mynediad i'n cyfleusterau o'r radd flaenaf i fynd i'r afael ag offer a chyfarpar safonol y diwydiant

Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru sydd ar y brig yng Nghymru am gyfleoedd dysgu, asesu, cymorth academaidd, llais myfyrwyr a boddhad cyffredinol - NSS 2023

Rhai o’r cwmnïau cyfryngau gerllaw yw BBC, ITV, a Global a Wales Online
Graddau Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau
Profwch y Cyfryngau
Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan gynyddol yn ein bywydau, o bapurau newydd, cyfnodolion a'r rhyngrwyd i ffilm a theledu. Rydym yn dibynnu ar newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol y cyfryngau ar gyfer ein ffenestr ar y byd – yr hyn a wyddom amdano a sut yr ydym yn ei ddeall.
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi. Mae llawer o’n cyrsiau hefyd wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, sy’n rhoi’r blaen i chi o ran ymgeisio am swyddi yn eich diwydiant, a gyda Chaerdydd yn dod yn un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU, dyma’r lle perffaith i lansio’ch gyrfa.
Trydar: @Journo_USW; @MCJ_USW; @SportsJournoUSW
Instagram: @journalism_usw; @sportsjournousw

Ein Dinas

Mae Caerdydd yng nghanol un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU. Mae ein campws yng nghanol y ddinas, gyda darlledwyr mawr o fewn cyrraedd hawdd, gan gynnwys BBC, ITV, a Global a Wales Online, sy’n cyhoeddi nifer o bapurau newydd a chylchgronau.
Cyfleusterau Trawiadol

Mae ein campws yn cynnwys cyfleusterau cyfryngau diwydiant, gan gynnwys stiwdio HDTV aml-gamera, stiwdio radio a chyfleusterau ar gyfer darlledu, print, radio ac aml-newyddiaduraeth. Gallwch hyd yn oed logi offer o'n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs newyddiaduraeth a'r cyfryngau.
Set Sgiliau Creadigol

Yn ogystal ag addysgu sgiliau technegol hanfodol ar gyfer diwydiant, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn fedrus mewn creadigrwydd, datrys problemau ac arloesi. Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar ddysgu ‘a arweinir gan broblem’, lle mae myfyrwyr yn llywio eu hymarfer trwy ymchwil yn y byd go iawn sy’n cael ei danategu gan drylwyredd academaidd, fel bod pob myfyriwr yn greadigol yn ôl y galw ac yn barod am swydd.
Cyrsiau Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau
Cyrsiau Is-raddedig

Ar ein gradd Newyddiaduraeth a arweinir gan ddiwydiant, byddwn yn dysgu popeth sydd ei angen arnoch i weithio fel newyddiadurwr proffesiynol - ym meysydd darlledu, ar-lein, print, cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus.
Byddwch yn astudio datblygiadau newydd mewn newyddiaduraeth, gan gynnwys twf newyddion ffug a phwysigrwydd cyfrwng annibynnol i ddemocratiaeth.

Os ydych chi eisiau gyrfa yn niwydiannau'r cyfryngau, mae'r radd ymarferol hon mewn cynhyrchu cyfryngau yn cynnig y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch chi.
Mae'n canolbwyntio ar adrodd straeon a sgiliau cynhyrchu ar gyfer y diwydiant cyfryngau traws-lwyfan.

Mae ein gradd Newyddiaduraeth Chwaraeon wedi'i datblygu gyda diwydiant a phrofiad ymarferol yn greiddiol.
Mae’r cwrs dwys a galwedigaethol hwn yn eich rhoi wrth galon newyddiaduraeth chwaraeon o’r cychwyn cyntaf.

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y cyfryngau, cymdeithas a diwylliant, a’i rôl o ran deall pwy ydym ni.
Bydd eich astudiaethau yn cynnwys themâu allweddol yn y cyfryngau, diwylliant a newyddiaduraeth, ac mae digon o gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai.
Cyrsiau Ôl-raddedig

Mae gan y cwrs lefel Meistr hwn mewn ymarfer newyddiaduraeth a chyfathrebu thema weledol gref, wedi’i chynllunio ar gyfer y sectorau newyddiaduraeth a chyfathrebu ehangach.

Rydym yn cynnig nifer o raglenni ymchwil ôl-raddedig Meistr trwy Ymchwil sy'n eich galluogi i wneud astudiaeth fanwl o bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell.

Rydym yn cynnig nifer o raglenni ymchwil ôl-raddedig PhD mewn cyfrifiadureg sy'n eich galluogi i wneud astudiaeth fanwl o bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell.
Gwaith Myfyrwyr
Rhoi'r Sbotolau ar ein Myfyrywr
Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.
Mae’r ŵyl bwrpasol hon yn gartref i waith prosiect, blogiau, fideos, postiadau cymdeithasol a llawer mwy gan ein myfyrwyr Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau.
Mae myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith i'r llu ac i ymfalchïo mewn gwneud hynny.
Edrychwch ar yr hyn y mae ein myfyrwyr wedi gweithio arno dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf trwy edrych ar dudalen gwefan Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Gradfest 2022.

Astudio yng Nghalon Caerdydd
Darganfod y 'Diff
Mae Caerdydd yn brifddinas fodern a fydd yn eich synnu.
Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy’r DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod. O siopa a chwaraeon byw i gerddoriaeth, y celfyddydau a hanes, mae rhywbeth at ddant pawb a chwmni gwych.
Mae Caerdydd yn ddinas myfyrwyr boblogaidd sy'n gwybod sut i fwynhau ei hun. Ble bynnag y byddwch chi'n troi, fe welwch chi rywle i fwyta, yfed neu ddawnsio'r noson i ffwrdd.
Dyma’r ddinas fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae wedi bod yn amlddiwylliannol a chosmopolitaidd o’r cychwyn cyntaf. Yma, fe welwch ansawdd bywyd anhygoel, mwy o fannau gwyrdd y person nag unrhyw ddinas yn y DU, a phobl wych.

Diwrnodau Agored
Profi PDC.
Ymunwch â ni mewn diwrnod agored neu ddigwyddiad byw a darganfyddwch y cyfleoedd sy'n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru.
Byddwch yn cael y cyfle i grwydro ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Bontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr presennol, dysgu am fywyd ym Mhrifysgol De Cymru ac arian myfyrwyr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n ymwneud â'ch cwrs.
I'r rhai na allant fynychu digwyddiad ar y campws, rydym yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac ar-alw. Mae digonedd o ffyrdd i ddarganfod beth yw pwrpas PDC.

Gwneud Cais

Barod i wneud cais? Ni allwn aros i'ch croesawu i #TeuluPDC. Gallwch wneud cais trwy UCAS neu PDC.
Siarad

Siarad gyda'n myfyrwyr, darlithwyr neu staff. Rydym yma i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Bywyd PDC

Gwnewch ffrindiau am oes, rhowch gynnig ar lawer o bethau newydd a dewch yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen.
Llety

Mae ble rydych chi'n byw yr un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei astudio. Dewch i ni ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref.
