Work On Real Cases

Gweithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau'r heddlu 

Taught By Active Researchers

Addysgir gan ymchwilwyr ac arbenigwyr diwydiant 

accredited icon.jpg

Rhoi theori ar waith gyda lleoliadau gwaith diwydiant 

CV Icon

Datblygu sgiliau sydd eu hangen mewn amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant 


GRADDAU TROSEDDEG

Ymchwilio Yfory

Mae Troseddeg yn bwnc amserol, rhyngddisgyblaethol sy'n tynnu o gymdeithaseg, seicoleg a'r gyfraith i archwilio'r materion sy'n ymwneud â throseddu a'r system cyfiawnder troseddol. O gyd-destun cymdeithasol trosedd a sut mae'n cael ei reoli i sut mae asiantaethau'n gweithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol, byddwch yn astudio pynciau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt, gan roi mynediad i chi at amrywiaeth eang o swyddi. 

Rydym yn cynnig cyfres amrywiol o gyrsiau troseddeg gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio, o ryfela gangiau, diwylliannau gynnau a chyfiawnder ieuenctid, i’r ffordd y caiff trosedd ei adrodd yn y cyfryngau sy’n eich galluogi i ddewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau. 

Ymcwhil Arloesol

Cutting edge research

Cewch eich addysgu gan dîm o ymchwilwyr sy’n arbenigo mewn lladdiad a thrais, cyfiawnder ieuenctid a pholisi ieuenctid, plismona, defnyddio cyffuriau, troseddeg werdd, fyd-eang a thrawswladol, atal troseddau, cam-drin anifeiliaid, cyfiawnder anffurfiol a dewisiadau amgen i erlyn a charcharu. 

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2014), daeth Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol De Cymru yn wythfed yn y DU am ymchwil sy’n arwain y byd. 

Uned Hen Achosion Actif

USW cold case unit

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. 

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio. 

Lleoliadau Gwaith Diwydiant

criminology work placements

Mae llawer o gyrsiau yn cynnig modiwl lleoliad profiad gwaith i helpu i wella eich cyflogadwyedd. Mae gennym gysylltiadau ardderchog ag asiantaethau cyfiawnder troseddol, gan wahodd siaradwyr gwadd i siarad â chi am eu gwaith. 

Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau gwaith gwirfoddol tra byddwch yn astudio. 


Cyrsiau Troseddeg

Cyrsiau Is-raddedig

Cyrsiau Ôl-raddedig


Cyrsiau blasu am ddim

Cael blas o astudio yn PDC

Meddwl am astudio gradd, ond yn ansicr a yw PDC yn addas i chi? Mae ein cyrsiau blasu byr yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau i'ch cyflwyno i'ch dewis faes astudio a rhoi cipolwg i chi ar sut y byddwch yn dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. 

Mae cyrsiau blasu yn amrywio o ran hyd, ond gallwch chi stopio, ailddechrau neu ailchwarae'r cwrs blasu unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau. Gallwch hefyd olrhain eich cynnydd yn ystod pob cwrs. 

Mae’r cwrs blasu byr hwn yn archwilio’r cysylltiad rhwng trawma a throsedd ac mae’n cynnwys cymysgedd o diwtorialau fideo sy’n cloi gyda chwis rhyngweithiol. Mae'r cwrs yn cymryd tua. 40 munud i'w gwblhau, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn cael eich arwain trwy'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â thrawma a sut mae trawma yn ymwneud â throseddu. 

criminology taster course.png

Lleoliadau

Profi De Cymru

Mae'r lleoedd rydych chi'n eu hastudio ac yn byw yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn a gewch o'r brifysgol. Mae’n bwysig bod yn rhywle sy’n teimlo fel cartref, ond a all hefyd eich synnu. Mae De Cymru yn cynnig profiadau cyfoethog, gyda Chaerdydd yn ganolog. 

Gyda champysau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, gallwch brofi’r amrywiaeth sydd gan dde Cymru i’w gynnig – bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir, a llonyddwch cefn gwlad. 

Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un brifysgol ydyn ni. Mae pob campws yn agored i chi a beth bynnag sy'n eich ysbrydoli, mae croeso i chi bob amser. 

locations-tile-v3.jpg

Diwrnodau Agored

Profi PDC

Ymunwch â ni mewn diwrnod agored neu ddigwyddiad byw a darganfyddwch y cyfleoedd sy'n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru. 

Byddwch yn cael y cyfle i grwydro ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Bontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr presennol, dysgu am fywyd ym Mhrifysgol De Cymru ac arian myfyrwyr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n ymwneud â'ch cwrs. I'r rhai na allant fynychu digwyddiad ar y campws, rydym yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac ar-alw. Mae digonedd o ffyrdd i ddarganfod beth yw pwrpas PDC. 

Peidiwch ag anghofio i ddilyn ni ar gymdeithasol i gadw i fyny â'r hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol De Cymru. #TeuluPDC 

open-days-tile-v1.jpg

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Rhoi Theori ar Waith

Mae cwrs yn PDC yn fwy na gradd yn unig. Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory. Pobl sy'n barod i adeiladu eu gyrfaoedd ac sydd â'r meddylfryd i lwyddo trwy radd sy'n canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol. 

O brosiectau sy'n seiliedig ar arferion gwaith i amser yn y gweithle i interniaethau a lleoliadau, byddwn yn eich helpu i feithrin sgiliau sy'n barod am swydd ac ennill profiad perthnasol ar gyfer eich gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ymarferol gyda chwblhau ceisiadau am swyddi ac ymarfer technegau cyfweliad. Mae cefnogaeth ar gael bob cam o'r ffordd. 

research-tile-v1.jpg


Gwneud Cais

Apply to USW

Barod i wneud cais? Ni allwn aros i'ch croesawu i #TeuluPDC. Gallwch wneud cais trwy UCAS neu PDC.

Siarad

Chat with us

Siarad gyda'n myfyrwyr, darlithwyr neu staff. Rydym yma i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bywyd PDC

student life

Gwnewch ffrindiau am oes, rhowch gynnig ar lawer o bethau newydd a dewch yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen.

Llety

accommodation

Mae ble rydych chi'n byw yr un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei astudio. Dewch i ni ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref.