
Llongyfarchiadau! Croeso i PDC. Yma fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau yn y brifysgol.
Cyn i chi ddechrau ar eich taith yn y brifysgol gyda ni, mae 'na ambell beth pwysig y bydd angen i chi ei wneud, fel cofrestru ar-lein a chwblhau anwythiadau TG, cyn cael cwrdd â'ch cyd-ddisgyblion newydd, partneriaid ymchwil, darlithwyr a thimau cymorth.
Ar ôl cofrestru, rydym yn barod i'ch croesawu i'r brifysgol gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae ein digwyddiadau croeso, ar y campws a'r rhith, yn boblogaidd iawn ac yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr newydd, yn union fel chi.
COFRESTRU AR-LEIN

Sefydlu eich cyfrif TG prifysgol, cofrestrwch fel myfyriwr a threfnu eich cerdyn adnabod myfyriwr.
CROESO I UNILIFE PDC

Ein cynghorion ar beth i'w ddwyn i brifysgol, arian, chwaraeon, cymdeithasau, digwyddiadau a mwy.
AMSERLENNI A SEFYDLU

Dewch o hyd i'ch Amserlen Sefydlu, Amserlen Addysgu a gwybodaeth am ddyddiadau tymhorau yma.
DIGWYDDIADAU CROESAWU

Cymerwch ran gyda'n digwyddiadau croeso ac ymunwch â' #TeuluPDC!
Mae dechrau yn y brifysgol yn brofiad gwych a chyffrous. Gall fod llawer i'w gofio i'w wneud cyn cyrraedd. Rydyn ni yma i helpu.
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau a all ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth wedi eu teilwra.
Gall y dolenni pwysig isod eich helpu drwy rai o'r agweddau pwysicaf wrth baratoi ar gyfer mynd i'r brifysgol.