Bydd eich gyfnod yn PDC yn ehangu eich gorwelion, yn eich dysgu am ddulliau newydd o edrych ar y byd. Mae ein graddedigion yn barod i wynebu yfory. Pobl sy’n barod i adeiladu eu gyrfaoedd a gwneud gwahaniaeth. PDC sy'n gwella pob yfory.


Gallwch Fod yn Ymarferol

You will get hands on

Mae gennym ddull unigryw o addysgu trwy brofiad ymarferol a phartneriaethau ag arweinwyr diwydiant. Mae’n eich paratoi ar gyfer lle mae’r proffesiwn o’ch dewis yn mynd yn y dyfodol, ac yn eich helpu i ddod yn rhan o’r proffesiwn hwnnw cyn i chi raddio. Dyma pam mae 95% o’n graddedigion mewn gwaith amser llawn neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis. Dysgwch fwy drwy ein tudalen cyflogadwyedd.

Gyferbyniadau Ysbrydoledig

Three Locations, Connected

Creadigrwydd bywiog Caerdydd… sbardun mentrau newydd Casnewydd… y natur arw o amgylch Pontypridd, Glyn-taf a Trefforest… a phopeth yn y canol. Mae gennym ni dri lleoliad, rydyn ni’n un Brifysgol. Mae gan bob campws gysylltiadau da, mae pobman yn agored i chi fel myfyriwr PDC. Pa bynnag gampws sy’n cynnal eich cwrs, cewch y gorau o Dde Cymru i’w archwilio.

Byddwch Chi'n Ffitio i Mewn

You'll fit in

Mae PDC yr un mor groesawgar gyda’i thraed ar y ddaear â’r lle rydyn ni’n ei alw’n gartref. Mae ein maint dosbarthiadau bach pwrpasol, ein pwyslais ar gydweithredu a staff cyfeillgar yn golygu bod pob math o fyfyriwr yn ffynnu yma. Er ein bod ni’n un o’r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe welwch fod ein darlithwyr yn adnabod pob un o’u myfyrwyr yn ôl enw. P’un ai chi yw’r genhedlaeth gyntaf i fynychu’r brifysgol neu os ydych yn parhau â thraddodiad teuluol, sy’n edrych i astudio am y tro cyntaf neu’n rhan-amser, fe welwch eich bod chi’n ffitio i mewn. Gweld ein tudalennau bywyd myfyrwyr i ddysgu mwy.

Dysgu Wedi'u Hail-Lunio

Classrooms Reimagined

Y ffordd orau i fod yn barod ar gyfer gyrfa pan fyddwch chi’n graddio, yw astudio gan ddefnyddio’r un cyfleusterau, meddalwedd a thechnegau y byddwch chi’n eu defnyddio yn eich gyrfa. Mae ein holl gyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac o safon diwydiant. Ac mae pob cwrs yn darparu cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gyda chwmnïau blaenllaw. Mae astudio yn PDC mor agos ag y gallwch chi i fod yn eich diwydiant tra yn y brifysgol. Dyna sy’n rhoi cymaint o hyder i gyflogwyr yng ngraddedigion PDC.

Cysylltiadau Diwydiant

Industry Linksjpg

Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno ein cyrsiau mewn partneriaethau unigryw gyda chyflogwyr, gan gynrychioli arweinwyr diwydiant, y sector cyhoeddus a chyrff cenedlaethol. Mae eich gradd PDC yn canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol. Mae mwyafrif ein cyrsiau hefyd yn darparu achrediadau proffesiynol ychwanegol, gan roi mantais gystadleuol ychwanegol i chi pan fyddwch chi’n graddio.

Cefnogaeth Anhygoel

Support Network

Neilltuir Hyfforddwr Academaidd Personol i bob myfyriwr israddedig, yn annibynnol ar ei gwrs, i’w helpu gyda’u hanghenion unigol. Maen nhw yno i’ch helpu chi i gael y gorau o astudio a bywyd tra yn PDC. Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i wasanaethau cymorth proffesiynol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – gan gynnwys lles, gyrfaoedd a chyflogaeth, entrepreneuriaeth, cymorth astudio a chlybiau a chymdeithasau. Gallwch hefyd gael mynediad at wasanaethau cymorth proffesiynol am ddim ar gyfer bob agwedd o fywyd

Cyfeillgarwch Gydol Oes

Friendships

Mae PDC yn gymuned agored o fyfyrwyr, amrywiol a chroesawgar bob amser, lle mae cyfeillgarwch gydol oes yn cael ei greu. Gyda’r amrywiaeth enfawr o bethau i’w gwneud, eu gweld a’u profi ar draws ein lleoliadau, mae rhywbeth newydd i’w ddarganfod o hyd. P’un a ydych chi yng nghanol Caerdydd neu ym mryniau’r Parc Cenedlaethol, nid ydych chi byth mwy nag 20 munud i ffwrdd o rywbeth hollol wahanol. Beth bynnag eich diddordebau, mae yna gymdeithas neu glwb PDC lle byddwch chi’n cwrdd â myfyrwyr o’r un anian. Gweld ein tudalennau bywyd myfyrwyr i ddysgu mwy.

Dysgu Rhyngweithiol

InteractIve Learning

Tra bod COVID yn parhau i effeithio ar gymdeithas, rydym yn cymysgu dulliau addysgu ar-lein a thraddodiadol i greu cymuned ddysgu weithredol, gymdeithasol o amgylch y pwnc o’ch dewis. Nid yw hyn yn newydd yn PDC. Rydym wedi defnyddio dysgu cyfunol yn llwyddiannus ar nifer o gyrsiau ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi gallu addasu a theilwra’r dull hwn yn effeithiol, a sicrhau bod lles myfyrwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae ein profiad yn golygu y gallwn hefyd addasu’n gyflym wrth i amgylchiadau newid gan darfu cyn lleied â phosibl ar astudiaethau.

Ymchwil sy'n Newid Bywydau

life changing research

Mae ein hymchwil a'n haddysgu yn canolbwyntio ar yr heriau byd-eang a fydd yn effeithio ar bob cymuned yn y dyfodol. Gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ystyried yn flaenllaw yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol, mae ein darganfyddiadau a'n cydweithrediadau yn helpu i newid bywydau a'n byd yn ymarferol er gwell, o ynni gwyrdd, i gyfiawnder troseddol a datblygiadau meddygol.

Am Yfory Gwell

Better Tomorrows

Yn PDC, rydym bob amser yn anelu’n uwch ac yn gweithio’n galetach. Mae’n rhaid i ni. Rydym yn Brifysgol gymharol ifanc, gydag ymagwedd wahanol iawn – gan weithio mewn partneriaeth â diwydiannau a chymunedau i baratoi myfyrwyr i lunio’r dyfodol er gwell.  A gan edrych ar y canlyniadau, mae ein hymagwedd yn gweithio. Yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf rydym wedi symud i fyny 44 lle yn nhabl Prifysgolion y DU (The Guardian, 2021). Mae angen momentwm i greu newid – ymunwch â PDC ac elwa o’n un ni.


Gwneud Cais

Apply to USW

Yn barod i wneud cais? Ni allwn aros i'ch croesawu i'r #TeuluPDC. Gallwch wneud cais trwy UCAS neu PDC.

Sgwrsio

Chat with us

Sgwrsiwch â'n myfyrwyr, darlithwyr neu staff. Rydyn ni yma i helpu i ateb unrhyw gwestiynau.

Bywyd PDC

student life

Gwnewch ffrindiau am oes, rhowch gynnig ar lawer o bethau newydd a dod yn fwy annibynnol.

Llety

accommodation

Mae ble rydych chi'n byw yr un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei astudio.