MAE EIN HUNDEB MYFYRWYR, DARLITHWYR A STAFF CYMORTH YN GWEITHIO GYDA'I GILYDD I GYFLAWNI PROFIAD CHWARAEON O'R RADD FLAENAF I’N MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL.

Mae iechyd a lles staff a myfyrwyr wrth galon ein hymdrechion i newid bywydau er gwell. Ein nod yw cynnig amgylchedd sy'n cefnogi'r rhai hynny nad ydynt yn actif ac sy'n dymuno cynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd ochr yn ochr â'r rhai sy'n dymuno cystadlu ar y lefel uchaf mewn chwaraeon. Yma, gallwch ddarganfod mwy am ein gweithgareddau chwaraeon ar gyfer ein myfyrwyr.



Chwarae Chwaraeon yn PDC

I lawer o fyfyrwyr mae chwaraeon yn rhan fawr o’u bywydau, felly mae’n naturiol gweld myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Yn PDC, rydym yn cynnig amgylchedd chwaraeon ffyniannus sy'n arwain at lwyddiant. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer o lwyddiannau eithriadol yng Nghynghrair Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) gyda chefnogaeth ein cyfleusterau hyfforddi elitaidd a’n rhaglenni chwaraeon perfformiad uchel.

Rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiannau chwaraeon ac mae'n rhan fawr o fywyd myfyrwyr PDC. Mae gennym dros 60 o dimau yn chwarae yn y cynghreiriau BUCS ar brynhawn dydd Mercher. Mae timau chwaraeon yn amrywio o bêl-droed, rygbi, a phêl-fasged i polo dŵr, nofio, pêl-foli a badminton. Ewch i'n gwefan Undeb y Myfyrwyr am ragor o fanylion am bob tîm.

Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr

Bob blwyddyn mae myfyriwr neu fyfyriwr graddedig diweddar yn cael ei ethol i weithio ar weithgareddau cefnogi a sicrhau bod llais myfyrwyr yn cael ei glywed.

Mae ein Swyddog Gweithgareddau Undeb Myfyrwyr yn hyrwyddo llais myfyrwyr timau, clybiau a chymdeithasau ac yn cefnogi cyfleoedd codi arian a gwirfoddoli.

Gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol i ddarganfod mwy am ein timau chwaraeon.

Cymryd rhan

Gall unrhyw fyfyriwr amser llawn neu ran-amser gynrychioli PDC mewn amrywiaeth eang o chwaraeon fel unigolyn neu fel rhan o dîm.

Bob blwyddyn rydym yn gwahodd myfyrwyr i gofrestru ar gyfer treialon yn ein Ffair y Glas a gynhelir yn ystod Wythnos y Glas.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, mae mwy o fanylion ar gael ar wefan yr Undeb  Myfyrwyr.