
MAE EIN PARTH FFITRWYDD YN DARPARU YSTOD O DDOSBARTHIADAU FFITRWYDD, CYRSIAU DAN GYFARWYDDYD A CHAMPFEYDD SY'N ADDAS AR GYFER UNRHYW LEFEL O FFITRWYDD.
Wedi’i leoli ar Gampws Trefforest ym Mhontypridd, mae FitZone ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn hygyrch i staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd. Mae FitZone yn cynnig dros 31 o ddosbarthiadau yr wythnos yn ystod y tymor, yn amrywio o yoga poeth a kettlebells i Les Mills.
Mae gan y brif neuadd chwe chwrt badminton, ac mae gan y gampfa dros 50 o beiriannau ymarfer cardiofasgwlaidd ynghyd ag offer hyfforddi pwysau. Mae yna gyrtiau sboncen, stiwdio ar gyfer dawns a chrefft ymladd, ac ystafell gryfder. Gweler ein trosolwg o gyfleusterau am ragor o fanylion.
Cyhoeddiadau 📢
🕒 Dilynwch oriau agor yr haf o fis Gorffennaf i fis Medi.
📋 Mae dosbarthiadau cyfyngedig ar gael yn ystod misoedd yr haf.

Aelodaeth Chwaraeon PDC a Phrisiau
P’un a ydych yn fyfyriwr presennol, yn aelod o staff neu’n gyhoedd, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni aelodaeth chwaraeon PDC sy’n rhoi mynediad i chi i’n cyfleusterau chwaraeon am y prisiau gorau.
Mae tair prif haen o aelodaeth ar gael sy'n cwmpasu mynediad cynhwysol ar draws ystod o weithgareddau a chyfleusterau, mynediad diderfyn rheolaidd i'r gampfa neu dalu wrth fynd. Gweler ein categorïau aelodaeth isod am ragor o fanylion.

Aelodaeth Myfyrwyr
Math o Aelodaeth | Pris |
---|---|
Blwyddyn Academaidd (9 mis) | £120 |
Misol | £20 |
Pas Diwrnod | £5 |
Aelodaeth Staff
Math o Aelodaeth | Pris |
---|---|
Blwyddyn Academaidd (9 mis) | £200 |
Misol | £25 |
Pas Diwrnod | £5 |
*Dim ond ar gael i staff PDC
Aelodaeth Gyhoeddus
Math o Aelodaeth | Pris |
---|---|
Misol | £35 |
Pas Diwrnod | £5 |
Dosbarthiadau Iechyd a Ffitrwydd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau iechyd a ffitrwydd a gynhelir bob wythnos yn ein Canolfan Chwaraeon ar y campws yn Nhrefforest.
Bydd pob Aelodaeth yn cynnwys mynediad llawn i Ddosbarthiadau Iechyd a Ffitrwydd.
Sut ydw i'n cofrestru?
Gall aelodau archebu ar-lein neu dros y ffôn hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw. Gall y rhai nad ydynt yn aelodau archebu dros y ffôn, hyd at 24 awr ymlaen llaw. Rydym yn argymell archebu dosbarthiadau cyn gynted â phosibl gan fod rhai ohonynt yn boblogaidd iawn.

Gweler isod enghraifft o amserlen y dosbarth.
Cysylltwch â'n gwasanaeth i gael yr amserlen ddosbarth fwyaf diweddar.
Cyrsiau Hyfforddiadol
Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddiadol bob wythnos sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Mae cyrsiau hyfforddiadol yn ffordd wych o gymryd rhan neu roi cynnig ar chwaraeon newydd ac mae ein cyrsiau'n amrywio o Ffitrwydd Polyn i Sboncen - mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae pob cwrs sydd ar gael yn rhedeg am bedair wythnos a rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae dosbarthiadau yn agored i bawb ac yn cael eu disgowntio i ddeiliaid Aelodaeth Chwaraeon PDC.
Sut ydw i'n cofrestru?
Rydych chi'n archebu lle trwy ymweld â'r dderbynfa ac mae costau cysylltiedig yn dibynnu ar lefel eich aelodaeth. Rydym yn argymell archebu lle ymlaen llaw gan fod rhai o’r cyrsiau’n llenwi’n gyflym iawn. Sylwer: Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar bob cwrs. Cysylltwch â ni i wirio argaeledd a chadarnhau eich archeb.

Gall y cyrsiau hyfforddiadol sydd ar yr amserlen ac ar gael ar y campws newid ac amrywio bob tymor.
Campfa ffitrwydd â chyfarpar llawn

Neuadd chwaraeon wedi'i hadnewyddu

Stiwdios dosbarth ymarfer corff

Ystafell hyfforddi cryfder

Ystafell iechyd a ffitrwydd

Cwrt sboncen

Oriau agor yr haf:
- Dydd Llun - Dydd Gwener: 7yb - 10yh
- Dydd Sadwrn - Dyddd Sul: 9yb - 5yh