
AMGYLCHEDD HYFFORDDI ELITAIDD WEDI'I ADEILADU’N BWRPASOL GYDAG UN PWRPAS – HYFFORDDI A'CH DATBLYGU I'CH POTENSIAL UCHAF.
Mae ein Parc Chwaraeon yn fodern, yn broffesiynol ac mae ganddo rai o'r offer hyfforddi prifysgol gorau yn ne Cymru. Os byddwch yn ymuno â thîm, byddwch yn hyfforddi ym Mharc Chwaraeon PDC - un o'r lleoliadau chwaraeon prifysgol gorau yn y DU. Mae ein cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan dimau proffesiynol rhyngwladol, megis tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a charfanau rygbi teithiol Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia.
Mae Parc Chwaraeon PDC yn safle 30 erw gwych wedi’i leoli yn Nhrefforest ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ac mae’n gartref i ystod eang o gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys cae pêl-droed 3G safonol FIFA dan do sy’n gartref i System GPS Dan Do Catapult ClearSky, ystafell ddadansoddi nodiannol, ac ystafell cryfder a chyflyru, cae pob tywydd, cae 3G awyr agored a nifer o gaeau glaswellt aml-ddefnydd ymhlith pethau eraill.
Cae pêl-droed 3G safonol FIFA dan do

Parth cryfder a chyflyru gyda’r offer pwrpasol

Caeau 3G pob tywydd, awyr agored a chaeau glaswellt

Neuaddau dan do ar gyfer pêl-rwyd, pêl-fasged, a mwy

Switiau dadansoddi i werthuso data a fideo

Labordai ac offer
arbenigol

Archebion ac Ymholiadau
Mae holl gyfleusterau’r Parc Chwaraeon ar draws ein safle 38 erw trawiadol ar gael i’w llogi i fyfyrwyr, staff a phobl allanol. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ein cyfleusterau dan do ac awyr agored fel lleoliad hyfforddi yna gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol. Bydd y pris yn amrywio yn dibynnu ar natur eich archeb, rydym hefyd yn cynnig trefniadau masnachol pwrpasol gyda sefydliadau a chymdeithasau allanol. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion, ein nod yw ymateb i bob ymholiad archebu o fewn 48 awr.
📧 Ymholiadau allanol: [email protected]
Fel arall, gallwch ffonio ein Tîm Gwasanaeth:
📞 (01443) 482681
Cysylltiadau Allweddol
Steve Savage, Pennaeth Chwaraeon PDC
📧 [email protected]
Les Gibbs, Rheolwr Tiroedd
📧 [email protected]
Lewys Thomas, Swyddog Chwaraeon
📧 [email protected]
Cost Llogi
Sylwer: Caiff ein costau eu hadolygu a’u diweddaru’n flynyddol, mae’r costau a restrir isod yn adlewyrchu prisiau myfyrwyr a staff ar gyfer clybiau myfyrwyr PDC neu dimau staff fesul awr ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol: 2023-24.
Cyfleusterau Parc Chwaraeon | Cyfradd | |
---|---|---|
Prif Neuadd (Neuadd Gyfan) | £21.00 | yr awr |
Prif Neuadd (Hanner Neuadd) | £10.50 | yr awr |
ATP (Cae Llawn) | £31.25 | yr awr |
ATP (Hanner Cae) | £15.63 | yr awr |
3G (Cae Llawn) | £39.00 | yr awr |
3G (Hanner Cae) | £19.50 | yr awr |
Stadiwm 3G (Cae Llawn) | £45.00 | - |
Stadiwm 3G (Hanner Cae) | £22.50 | - |
Ysgubor (Cae Llawn) | £100.00 | - |
Glaswellt Awyr Agored (Cae Llawn) | £50.00 | yr awr |
Glaswellt Awyr Agored (Hanner Cae) | £112.50 | Cyfradd Gêm |
Darlithfa | - | |
Ystafell Cryfder a Chyflyru | £75.00 | - |

Prifysgol De Cymru, Parc Chwaraeon
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
CF37 5UP
Sut i ddod o hyd i ni
Mae Parc Chwaraeon PDC nepell o gampws Trefforest a Glyn-taf ym Mhrifysgol De Cymru.
- 🚉 Yr orsaf drenau agosaf yw Ystad Trefforest, gyda threnau rheolaidd yn gadael Caerdydd Canolog drwy gydol y dydd ar Reilffyrdd Cymoedd De Cymru.
- 🚗 Tua'r Gogledd o'r M4: Gadael ar Gyffordd 32 a theithio tua'r gogledd ar yr A470 am tua 4 milltir. Gadewch yr A470 ar gyffordd yr A4054 a chymerwch yr allanfa gyntaf i Stad Ddiwydiannol Trefforest (A4054). Fe welwch arwyddion ar gyfer Parc Chwaraeon PDC ar y chwith, ychydig cyn adeilad ATS.
- 🚗 Tua'r De o Ferthyr Tudful: Teithiwch i'r de ar yr A470 nes i chi gyrraedd y gyffordd sydd wedi'i nodi ar yr A4054. Cymerwch y bedwaredd allanfa oddi ar y gylchfan i Stad Ddiwydiannol Trefforest (A4054). Fe welwch arwyddion ar gyfer Parc Chwaraeon PDC ar y chwith, ychydig cyn adeilad ATS.
Oriau Agor
Mae Parc Chwaraeon PDC yn gweithredu’r oriau agor canlynol yn ystod y tymor. Sylwer: Y tu allan i dymor y brifysgol, gall oriau agor amrywio, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaeth os ydych yn ansicr.
- Dydd Llun - Dydd Gwener: 8:00am - 10:00pm
- Dydd Sadwrn: Amherthnasol
- Dydd Sul: Amherthnasol