
P'un a ydych chi gyda phoen cefn cronig neu'n chwilio am gymorth i ddarganfod a thrin problemau gyda'ch cymalau neu’ch cyhyrau, mae ein gwasanaethau clinigol yn cynnig cyfle i asesu'ch cyflwr a'ch cynghori ar eich opsiynau triniaeth.
HYSBYSIADAU CLINIG
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith i gadw cleifion, staff a myfyrwyr yn ddiogel. Dadlwythwch ein canllaw ymwelwyr i gael manylion am weithdrefnau newydd a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ymweld â'r Clinig.

SUT ALLA I DREFNU APWYNTIAD CEIROPRACTEG?
Gofynnwn i bob claf ceiropracteg gysylltu â ni i drefnu ymgynghoriad cychwynnol.

Ffoniwch
Gallwch ffonio'r clinig yn uniongyrchol ar 01443 483555 i drefnu apwyntiad dros y ffôn.

E-bostiwch
E-bostiwch [email protected] i drefnu apwyntiad.

Gofynnwch am alwad yn ôl
Cofrestrwch eich diddordeb ar-lein a byddwn yn eich ffonio yn ôl o fewn un
diwrnod gwaith.

AM SEFYDLIAD CEIROPRACTEG CYMRU
Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi bod yn darparu gwasanaethau clinigol i'r cyhoedd ers dros 20 mlynedd ac mae wedi'i leoli mewn cyfleuster a lleoliad addysgol hynod drawiadol sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.
Sut mae ein gwasanaethau'n gweithio
Ni allwn gynnig apwyntiadau cerdded i mewn ar hyn o bryd ac yn annog pob claf i gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau a fydd yn gwneud gwaith dilynol i drefnu apwyntiad. Mae apwyntiadau ar gael y rhan fwyaf o’r wythnos rhwng 8.20am - 7.30pm. Gweler ein horiau agor.
Rydym yn cynghori pob claf i drefnu ymgynghoriad cychwynnol lle rydym yn canolbwyntio ar ddiagnosis a dewisiadau triniaeth. Bydd unrhyw apwyntiadau pellach mewn perthynas ag unrhyw driniaethau clinigol a gynghorir.

Ymgynghoriad
cychwynnol
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf byddwn yn cynnal archwiliad sy'n cynnwys gwiriad iechyd cyffredinol, er enghraifft, cymryd eich pwysedd gwaed.
Pris: £25.00

Triniaeth
glinigol
Bydd triniaethau i leddfu problemau gyda'r esgyrn, cyhyrau a chymalau yn amrywio ac yn cynnwys tylino, therapi pwynt sbarduno neu drin.
Pris: £12.00 (yr apwyntiad)

CYFLEUSTERAU O’R RADD FLAENAF A GWASANAETHAU YCHWANEGOL
Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi bod yn darparu gwasanaethau clinigol i'r cyhoedd ers dros 20 mlynedd ac mae wedi'i leoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf a lleoliad addysgol sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.
Mae'r Clinig, sy'n cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn cynnwys 20 ystafell driniaeth, ystafell pelydr-X digidol, uned uwchsain diagnostig, uned sganio DXA, yn ogystal â mynediad at gyfleusterau MRI. Cefnogir hyfforddiant myfyrwyr hefyd gan y ‘Anatomage’ - tabl delweddu 3D anatomeg soffistigedig iawn - y cyntaf yn Ewrop ar gyfer Addysg Ceiropracteg.
SUT I DDOD O HYD I NI?
Lleolir y clinig union gyferbyn â Gorsaf Drenau Trefforest ym Mharc Busnes William Price, dilynwch yr arwyddion i’r dderbynfa. Mae parcio am ddim ar y safle i bob ymwelydd, os ydych chi'n bwriadu gyrru, dyma ein cyfeiriad:
Sefydliad
Ceiropracteg Cymru
Prifysgol De
Cymru
Trefforest
RhCT
CF37 1TW
ORIAU AGOR
- Clinig Bore: 8.20am - 12.40pm
- Clinig Prynhawn: 3.10pm - 7.30pm*
*Mae ein clinig prynhawn yn cynnig oriau byrrach ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm - 5.50pm ac nid yw e ar gael ar ddydd Gwener.
HYSBYSIADAU A DATGANIADAU
Dadlwythwch ein Hysbysiad Prosesu Teg.
Dadlwythwch y CDatganiad Addysgol Ceiropracteg.