Mae'r WIOC yn cynnig gwasanaeth Pelydr-X preifat i gleifion, ac i ymarferwyr gofal iechyd allanol sy'n cydymffurfio â IR(ME)R. Mae cost y gwasanaeth hwn yn cynnwys adroddiad gan Radiolegydd Ceiropracteg (DACBR) trwy gwmni o'r enw Professional Radiology Outcomes (PRO).
Er mwyn gwneud atgyfeiriad, rhaid i'r WIOC dderbyn copi o dystysgrif gofrestru gyfredol ymarferwr gofal iechyd o'u corff llywodraethu perthnasol, a derbyn contract prosesu data, y mae'n rhaid ei ddychwelyd i'r WIOC cyn y gellir derbyn atgyfeiriadau. I dderbyn copi o'r contract, cysylltwch â Christine Williams ar 01443 483591.
Ffurflen Atgyfeirio Pelydr-X - Allanol
Ffurflen Atgyfeirio Pelydr-X - Mewnol
Yn cychwyn o £65 y gyfres ar gyfer cleifion WIOC, gan gynnwys adroddiad.
Yn cychwyn o £85 y gyfres ar gyfer cleifion a atgyfeiriwyd yn allanol, gan gynnwys adroddiad.
Dan ddeddfwriaeth gyfredol, rhaid cadw'r delweddau gwreiddiol fel rhan o gofnodion cleifion, er gallwn ddarparu copi ar CD os oes angen.
Fel rheol mae dau glinig Pelydr-X yr wythnos fel y nodir isod, fodd bynnag, bydd manylion y rhain yn newid o bryd i'w gilydd:
Dydd Mawrth 9.30am – 12.00pm
Dydd Mercher 9.30am – 12.00pm