Yn dilyn atgyfeiriad priodol, bydd unrhyw archwiliadau uwchsain yn cael eu gwneud gan sonograffydd cyhyrysgerbydol (MSK) cymwys. Mae gan y clinig 2 ystafell uwchsain wedi'u lleoli ar lawr cyntaf clinig cleifion allanol Sefydliad Ceiropracteg Cymru.
Costau MSK
Cleifion Sefydliad Ceiropracteg Cymru o £65
Cleifion a Atgyfeirir yn Allanol o £85
Dydd Llun 9.00 – 12.00
Dydd Mawrth 9.00 – 12.00 a 13.30 – 16.00
CYFLEOEDD AM LEOLIAD CLINIGOL UWCHSAIN MSK
Mae Uned Gwasanaethau Clinigol, Uwchsain Diagnostig Cyhyrysgerbydol Sefydliad Ceiropracteg Cymru ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd yn falch o gyhoeddi cyfleoedd am leoliad clinigol ar gyfer unigolion sydd angen profiad mewn clinig er mwyn cwblhau eu cymhwyster MSK US.
Bydd tîm o uwch-sonograffyddion MSK cymwys gan gynnwys y Dr Roger Denton (Arbenigwr Meddyginiaeth Chwaraeon), Alison McBride a'r Dr Alf Turner yn rheoli'r gwasanaeth gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu dros dri diwrnod gan ddarparu chwe bloc dysgu o 3.5 awr y bloc.
Cost y gwasanaeth fydd £25 yr awr fesul myfyriwr a bydd disgwyl i ymgeiswyr ymrwymo at fynychu am gyfnod penodol o amser (gellir trafod hwn). Bydd y gwasanaeth yn gallu cymryd dau fyfyriwr fesul bloc dysgu er mwyn gwella'r profiad dysgu.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r Dr David Byfield Pennaeth Gwasanaethau Clinigol ar david.byfield@southwales.ac.uk