Fel rhan o'r gwasanaethau diagnostig a gynigir gan Sefydliad Ceiropracteg Cymru, rydym yn cynnig gwasanaeth sganio DXA cyfansoddiad y corff llawn a dwysedd esgyrn. Gwasanaeth preifat yw hwn ar hyn y bryd sydd ar gael am bris cystadleuol. Cefnogir y gwasanaeth hwn gan Feddyg Ymgynghorol sy'n arbenigo mewn clefydau esgyrn metabolaidd.
Gweithdrefn ddiogel, ddi-boen yw sgan DXA
sy'n cynnwys cael eich amlygu at ddos bach o ymbelydredd ïoneiddio
(Pelydrau-X). Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau IR(ME)R 2000, rhaid bod gan bob
claf atgyfeiriad y gellir ei gyfiawnhau'n glinigol gan ymarferwr gofal iechyd.
Bydd y canlyniadau fel arfer ar gael i'r ymarferwr a'ch atgyfeiriodd o fewn 5 diwrnod gwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â derbynfa WIOC ar 01443 483555
Apwyntiadau
Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferwr gofal iechyd megis meddyg teulu, ceiropractydd, osteopath neu ffisiotherapydd.
Ffurflen Atgyfeirio Dwysedd Esgyrn DXA
Ffurflen Atgyfeirio
Cyfansoddiad y Corff Llawn DXA
Pan fydd WIOC yn derbyn y ffurflen atgyfeirio, bydd yn cael ei hadolygu cyn cael ei phasio i staff derbynfa'r clinig a fydd yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer yr apwyntiad.
Mae apwyntiadau ar gael
dydd LLun 9.00 – 13.00 a dydd Mercher 9.00 – 13.00
Costau
Mae'r sgan DXA yn costio £100 a rhaid talu ar ddiwrnod y sgan gyda cherdyn debyd/credyd.
Amsugniametreg Egni-Deuol (DXA) - Cwestiynau Cyffredin (Dwysedd Esgyrn)
Cwestiynau Cyffredin - Cyfansoddiad y Corff Llawn
Amsugniametreg
Egni-Deuol (DXA) - Cwestiynau Cyffredin (Cyfansoddiad y Corff Llawn)