Gweithdrefn sy'n defnyddio peiriant uwchsain i dywys nodwydd fach trwy'r croen i roi pigiad steroid i'r ardal berthnasol yw pigiad dan arweiniad uwchsain. Caiff hyn ei wneud fel arfer i leddfu poen neu i leihau chwydd.
Mae pigiadau dan arweiniad fel arfer yn ddiogel ar gyfer y mwyafrif o gleifion, ond mae'n bwysig ein bod yn gwybod ymlaen llaw os yw cleifion yn cymryd unrhyw feddyginiaeth wrthgeulol neu os ydynt yn ddiabetig. Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin am restr lawn o wrtharwyddion.
Mae'r Sefydliad Ceiropracteg Cymru yn cynnig gwasanaeth pigiad dan arweiniad uwchsain.
Rhaid bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio am bigiad gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd cymwys, a ddylai drafod y rhesymau dros y pigiad gyda'r claf cyn gwneud yr atgyfeiriad.
Lawrlwytho Ffurflen Atgyfeirio.
Bydd y gost o bigiad dan arweiniad uwchsain yn cael ei godi fel 2 daliad ar wahân:
Y gost ar gyfer cleifion WIOC bydd £65 ar gyfer y sgan uwchsain a thaliad ar wahân o £210 ar gyfer y pigiad, a'r gost ar gyfer cleifion a atgyfeirir gan ddarparwyr gofal iechyd allanol bydd £85 ar gyfer y sgan uwchsain a £210 ar gyfer y pigiad.
Rhaid talu ar ddiwrnod yr apwyntiad.
Dydd Llun 8.30 – 12.00
Dydd Mawrth 10.00 – 12.00 a 13.30 - 15.00