Dull
therapiwtig, diogel sy'n creu archoll mor fach â phosib a ddefnyddir i drin
nifer cynyddol o gyflyrau tendonau, cymalau a chyhyrau yn effeithiol yw therapi
siocdon. Mae'r cyflyrau hyn fel arfer yn anafiadau cronig, hir dymor sy'n
achosi cryn dipyn o boen megis ysigiad penelin, tendonitis, plantar fasciitis,
tendonitis achilles a phwyntiau sbarduno myoffasgol.
Mae therapi siocdon yn gweithio trwy ddefnyddio pylsiau pwysau mecanyddol sy'n
aflonyddu'r tendon neu ardal y feinwe feddal. Mae'r pylsiau'n ysgogi cynnydd
yng nghyflenwad y gwaed i'r ardal anafus gan gyflymu'r broses o wella.
Apwyntiadau
Rhaid bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio am gwrs o therapi siocdon gan weithiwr gofal iechyd cymwys, a ddylai drafod y rhesymau dros y therapi gyda'r claf cyn gwneud yr atgyfeiriad.
Mae cleifion fel arfer yn cael eu hatgyfeirio am therapi siocdon os nad yw dulliau triniaeth mwy traddodiadol wedi bod yn llwyddiannus, neu os yw'r gwellhad wedi stopio.
Gellir lawrlwytho ffurflenni atgyfeirio isod:
Mae therapi siocdon yn ddiogel ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion, fodd bynnag, nid yw'n addas ar gyfer rhai cleifion, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin.
Costau
Yn ystod yr ymweliad cychwynnol ar gyfer therapi siocdon, fel arfer bydd rhaid cael sgan uwchsain cyn gallu cychwyn y therapi. Cost y sgan yw £65 ar gyfer cleifion WIOC ac £85 ar gyfer cleifion a atgyfeiriwyd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol allanol i'r WIOC.
Mae pob sesiwn therapi siocdon yn costio £50 a rhaid talu ar ddiwedd pob ymweliad. Mae mwyafrif y cleifion angen rhwng 3 a 6 ymweliad, fodd bynnag mae hyn yn dibynnu ar sut mae'r claf yn ymateb i'r driniaeth, a gall amrywio.
Oriau Agor Siocdon
Dydd Llun 8.30 – 12.00
Dydd Mawrth 10.00 – 12.00 a 13.30 - 15.00