Gwasanaeth sy’n gallu helpu pobl heb le mewn Prifysgol i ddod o hyd i le gwag addas ar gwrs addysg uwch ydy Clirio.
Rydych yn gymwys i wneud cais am le trwy’r broses glirio os nad oes gennych gynnig am le i astudio mewn Prifysgol ar hyn o bryd. Gallai hyn fod oherwydd un o’r rhesymau canlynol:
Sut ydych yn gwneud cais trwy’r Broses Glirio ym Mhrifysgol De Cymru?
Eich cam cyntaf fydd penderfynu ar y cwrs mae gennych ddiddordeb ynddo. Gallwch chwilio am gwrs penodol neu edrych trwy’r gwahanol feysydd pynciau sydd ar gael ar ein tudalen cyrsiau Clirio.
A ydy’ch dyfodol cyfan yn dibynnu ar beth sydd wedi’i ysgrifennu ar slip o bapur?
Nac ydy!
Hyd yn oes os nad ydych yn gwneud cystal ag oeddech yn gobeithio, mae dal cyfle i chi gael lle mewn prifysgol.
Yn gyntaf, ddewch o hyd i gwrs hoffech ei astudio, a ffoniwch ni ar 03455 76 06 06.
Trwy ein Llinell Glirio, gallwch siarad â’n staff mynediadau profiadol sy’n aros am eich galwad. Bydd angen i chi roi ychydig fanylion personol, sy’n cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, gwybodaeth am y cais UCAS rydych wedi’i wneud yn barod (os yn berthnasol) ac, yn bwysicaf oll, teitl a chod UCAS y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Bydd hefyd rhaid i chi restru pa gymwysterau sydd gennych – o TGAU hyd at eich cymwysterau mwyaf diweddar. Gan ddibynnu ar bryd wnaethoch gwblhau eich Lefelau A ac os ydy’ch cais yn system UCAS yn barod, os allwn gynnig lle i chi ar un o’n cyrsiau, bydd angen i chi ddarparu copïau o’ch tystysgrifau er mwyn i ni allu gwirio eich cymwysterau. Felly, mae’n bwysig iawn bod y dystiolaeth hon ar gael gennych.
Hyd yn oed os nad ydych yn cwrdd â phob un o’r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs rydych am ei astudio, bydd ein tîm yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i gwrs addas i chi.
Gallwch hefyd gysylltu â ni os ydych chi newydd benderfynu gwneud cais prifysgol eleni, ac felly ddim wedi gwneud cais UCAS eto. Ffoniwch ni heddiw ar 03455 76 06 06.
Yn gyntaf, llongyfarchiadau! Oni ddywedodd bawb byddai’r holl oriau o astudio’n galed yn talu eu ffordd?
Iawn, dyna bopeth! Nawr mae’n amser i ddathlu!
Os cynigir lle Clirio i chi yn PDC ond nad ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, dylech wneud cais nawr trwy ddewis o'r rhestr isod:
Myfyrwyr o Gymru
Myfyrwyr o Loegr
Myfyrwyr o'r Alban
Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon
Gall gymryd nifer o wythnosau i brosesu'ch cais, ond mae eu hasesiad cychwynnol yn gadael i chi gael rhywfaint o arian mor agos at ddechrau'ch cwrs â phosibl.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr ond bod swm eich benthyciad cwrs, prifysgol, coleg neu ffi dysgu wedi newid oherwydd y broses Glirio, bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw am y newidiadau ar unwaith i gyfyngu ar unrhyw oedi wrth dderbyn eich arian.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle ar gwrs astudio llawn amser ym Mhrifysgol De Cymru yn cael anfon e-bost i wneud cais am lety. Bydd hwn yn cynnwys defnyddenw a chyfrinair, a dolen i'n porth llety.
Os nad ydych wedi derbyn hwn neu os hoffech siarad ag un o'n tîm gwasanaethau llety, cysylltwch â ni mor fuan â phosib.
Ar ôl i chi gwneud cais, byddwn mewn cysylltiad i roi dyddiad aseiniad ystafell i chi, sef pryd y byddwch yn gallu logio i mewn a chwblhau eich dewis ystafell ar gyfer mis Medi. Ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais drwy glirio, bydd hyn o ganol mis Awst a hyd at ddechrau'r tymor ym mis Medi 2020.
Dechreuwch y brifysgol ym mis Medi! Dyma sut rydych chi'n gwneud cais i Brifysgol De Cymru trwy Glirio:
Mae dysgu cymysg yn gymysgedd o astudiaethau ar-gampws ac ar-lein. Mae nifer o'n cyrsiau wedi mabwysiadu'r dull hwn yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd. O fis Medi 2020, bydd pob un o'n cyrsiau yn defnyddio dysgu cymysg er mwyn cadw ein myfyrwyr a'n staff yn ddiogel.
Bydd pob un o'n darlithoedd yn cael eu cyflwyno ar-lein er mwyn peidio â thorri canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer grwpiau mawr o bobl, ac ar gyfer cyrsiau ag elfennau ymarferol sy'n cael eu dysgu mewn labordai arbenigol, gweithdai neu stiwdios creadigol, lle y gallwn, byddwn yn darparu gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ddiogel mewn grwpiau bach ac mewn amgylcheddau diogel.
Fel myfyriwr PDC, byddwch yn cael cefnogaeth lawn pan fydd y flwyddyn academaidd newydd yn dechrau ym mis Medi, boed hynny trwy ddysgu o bell neu ar gampws, nid yn unig gan eich timoedd cwrs a chyfadran, ond gan y ddarpariaeth ehangach o wasanaethau myfyrwyr. Rydym hefyd wedi cymryd i ystyriaeth eich bywyd fel myfyriwr.
Dylech fod yn sicr bod popeth yn cael ei roi yn ei le er mwyn i'ch astudiaethau barhau mewn ffordd ddiogel. Eich iechyd a'ch lles yw ein blaenoriaeth.
Enghraifft o ddarlith PDC a addysgir drwy lwyfannau ar-lein.
Enghraifft o sut all gwers ymarferol â phellter cymdeithasol edrych.
Gyda champysau ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd, cei di fwynhau popeth mae de Cymru yn ei gynnig – o fywyd a diwylliant y ddinas i draethau trawiadol a chefn gwlad godidog.
Mae llawer o'n darlithwyr yn flaenllaw yn eu maes, yn cynhyrchu ymchwil ac yn cyfrannu at ddatblygiadau o fewn eu maes arbenigedd.
Gwneud ffrindiau am oes, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, profiad o fywyd campws, elwa o'r amrywiaeth enfawr o gyfleusterau ac offer ac astudio cwrs a fydd yn llunio gweddill eich bywyd.
Rydym yn creu amgylchedd a phrofiad cadarnhaol yn PDC. Rydym yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd wrth i chi edrych i adeiladu eich dyfodol, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i deulu PDC!
Rydym yn gweithio gydag arweinwyr yn eu diwydiant i sicrhau bod ein haddysgu yn gyfredol a bod ein lleoliadau yn berthnasol. Byddwn yn eich helpu i ymgysylltu â diwydiant fel rhan o'ch cwrs i sicrhau eich bod yn graddio gyda phrofiad.
Rydym yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa drwy'r cwricwlwm. Mae'r addysgu'n cael ei lywio gan gyflogwyr, felly, byddwch yn dysgu sgiliau perthnasol. O brosiectau ymarferol i gael amser yn y gweithle, byddwn yn eich helpu i gael y profiad perthnasol ar gyfer eich gyrfa.
Mae diwrnodau agored ar-lein yn rhoi'r cyfle i chi edrych ar deithiau digidol, gwe-ddarllediadau, fideos cwrs a chymaint mwy.
Mae'n rhaid i chi aros gartref, ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi ohirio'ch dyfodol hefyd. Rydyn ni wedi symud ein Diwrnod Agored ar-lein er mwyn i chi allu darganfod y cyfleoedd sy'n aros amdanoch chi ym Mhrifysgol De Cymru.
Neilltuwch eich lle drwy glicio'r botwm isod neu cliciwch drwy'r dudalen hon i ddysgu mwy am ein diwrnodau agored ar-lein.